Tudalen:Daffr Owen.pdf/121

Gwirwyd y dudalen hon

a gwaeth, wrth bob hanes, a fyddai po bellaf yr âi. Gwelsai ddigon o bobl ar y trail yn dychwelyd i Dyea heb fod wedi cyrraedd y Klondyke o gwbl. Wedi trechu ohonynt erchyllterau'r Skagway a'r Chilcoot yr oedd rhaeadrau y dyfroedd uchaf wedi eu trechu hwythau.

Mynnai pob milltir o'r daith ei tholl mewn bywydau dynol, ac wedi colli o rai teithwyr eu cyfeillion ar y ffordd, hawdd oedd i ambell un golli ei reswm yn ôl llaw, ac i lawer mwy golli eu dewrder ysbryd, a gwangalonni ar y ffordd.

Beth a ddeuthai o'r bobl oedd mor hyawdl ar y llong am eu mesurau a'u trefniadau i ennill yr aur? Cyfarfu Daff â dau ohonynt ar y Chilcoot yn wynebu'n ôl i Dyea, ac yn crymu fel hen ddynion, a gwelsai wrth y Gors Fawr un arall wedi ei glymu ar sled rhag gwneuthur ohono niwed iddo'i hun ac i eraill. Ond yr oedd ef hyd yn hyn yn gryf ac iach gyda doleri'r Chilcoot yn ei logell ac addewid am fil arall atynt, heb sôn am gynhaliaeth gaeaf cyfan ar y Klondyke yn ychwanegol. Pa fodd y gallai ef ddal ei ben i fyny yn Vancouver heb ymdrechu i'r eithaf, a pha fodd y gallai ef egluro yn Frazer's Hope fod un gyfraith fechan, a honno dros amser yn unig, wedi peri iddo droi yn ei ôl.