Tudalen:Daffr Owen.pdf/145

Gwirwyd y dudalen hon

Cantwr wedi ei gymryd yn y Rhondda, ac yn cynnig "mynd ar shâr ag ef, pe delai'n ôl.

Y cwbl a ddywedodd, fodd bynnag, oedd "Bwriadaf ymsefydlu yn Vancouver, ac felly carwn roi tro i'r lle er gweld beth yw'r rhagolygon am fusnes yno ar hyn o bryd." Felly y penderfynwyd, ac felly y bu. Yr oedd Daff i gadw ei hawl yn Wood Creek, ac i dderbyn yn ôl y lwc neu'r amlwc a ddigwyddai yno, a'r ddau gyfaill i wneuthur fel y gwelent yn oreu i hyrwyddo'r gwaith.

XLIII. TEG EDRYCH TUAG ADRE"

TUA diwedd Awst y flwyddyn honno trodd yr agerlong Louisiana y ddiweddaf am y tymor-ei phen i lawr hyd Yukon gan ddwyn ei llwyth gwerthfawr allan i drafnidiaeth y byd.

Ar ei bwrdd yr oedd Daff Owen, a wynebai wareiddiad unwaith eto gyda dangosiad am saith mil ar hugain o ddoleri yn ei logell. Teimlad cysurus ydoedd hynny, ond mwy ac uwch yn ei feddwl oedd y boddhad o fod wedi egnio i'w cael a'u cadw. Peth pe bai wedi gwastraffu ei amser o un salŵn i'r llall gan estyn ei gwd aur i'r gweinyddwr i dalu am "yfed" i bob un yn y lle? Byddai'n rhaid iddo aros yno eto, a mynd yn ôl, efallai gyda llai o lwc, i'r cilfachau am aeaf arall. Yna daeth i'w feddwl am beryglon y daith i fyny, am hunllef y Chilcoot a'r Ceffyl Gwyn; ac ar hyn diolchodd i Dduw unwaith yn rhagor am ei arbed a'i lwyddo.

Yr oedd y llong erbyn hyn yng nghanolbarth Alaska, ac yn tynnu'n gyflym tua'r aber a'r dwfr hallt; a mwynhâi'r teithwyr hinon yr Indian Summer yn fawr iawn. Nid oeddynt mor niferus o gryn lawer a theithwyr y Baltimore a ddeuthai o Vancouver i Dyea. Beth oedd ffawd y gweddill a'r miloedd eraill a dywalltodd yr holl longau allan ym mlwyddyn gyntaf y dwymyn aur? Gallai'r Chilcoot a'r afonydd creigiog