Tudalen:Daffr Owen.pdf/49

Gwirwyd y dudalen hon

addawol a oedd yn codi yn yr ardal, brwydr gwffio neu ddwy, brwydrau canu corau meibion y De, yr arwyddion cyn tanchwa, y perigl o gyfarfod haid o lygod Ffrengig yn y lofa (ac yn enwedig o gael eu harwain gan lygoden wen), pris isel torri'r "gloden," ffair Castellnedd, ynghyd â llawer mwy o bethau mân eraill; a phob ymgom yn cael ei chychwyn gan yr un oedd â'i anian fwyaf yn y cyfeiriad hwnnw.

XIII. SHONI CWMPARC

FEL yr ai'r dyddiau ymlaen dechreuodd Daff ymserchu'n fawr yn ei bartner. Yn un peth, yr oedd yn lowr deheuig (neu "goliar decha" fel y buasai D. Y. ei hun yn ei ddywedyd), a mwy na hynny nid oedd dim yn ormod trafferth ganddo i helpu Daff i ddod yn lowr da hefyd. Ac o gymryd diddordeb yn y Cantwr, braidd yn amhosibl a fyddai cynnal y diddordeb hwnnw heb droi rhyw gymaint ym myd cân. Felly, ac yntau'n dechreu dyfod yn eofnach i siarad, ebe Daff un diwrnod,—

"Mae canu da yng nghapel y Baptist, D.Y., on'd oes a?"

"O diar, ôs! hynny yw o ganu fel'ny. Ia, canu cysegretig, dyna'r gair, ôs, yn wir, ganu piwr digynnig. Ond bachan! beth pe baut ti'n clywad 'n parti ni,— dyna i ti ganu!

"Ti glywast Shoni Cwmparc yn 'i shimplo fa pwy ddydd, a dy shimplo ditha' fel down bass gyda llaw.

Ho'i, Daff! beth pe baut ti'n dod yn down bass heb jocan un o'r blynydda' nesa' 'ma! Dyna'r lle bydda sbort. Beth yw dy oetran di 'nawr?"

"Cerad ar 'y mymthag."

H'm, lled ifanc. O'dd rhai o dy dylw'th di'n canu?"

"Na, neb ond mam, 'rodd hi'n ffond iawn o ganu.'

Beth o'dd hi'n ganu?

O— Newyddion da,' 'Er i'r ffigysbren,' 'Y Bachgen Main,' 'Deio Bach'; ac 'rwy wedi clywad