Tudalen:Daffr Owen.pdf/61

Gwirwyd y dudalen hon

XVIII. TORRI'R CYNLLUNIAU

O HOLL ddyddiau llawn ei fywyd ni bu i Ddaff erioed lawnach un na hwn. Y bore yn fawr ei bryder am lwydd ei hoff gôr meibion ym Mhontypridd, y prynhawn yn wledd o ganu na chlywodd Cymru, nac un wlad arall ychwaith ei gwell; yna'r llongyfarchiadau, pan oedd dynion cryfion, o'u teimladau yn cofleidio ei gilydd fel pe baent hogennod ysgol; ac yn ddiweddaf, y llythyr hwn yn ei daro yn fud pan oedd ei galon a'i dafod, oherwydd y fuddugoliaeth, yn fwyaf chwannog i lawen siarad. O weld ei wedd gythryblus, gofynnodd gwraig y llety yn garedig a oedd wedi derbyn newydd drwg. Nid gwirionedd a fyddai ateb ei fod, ac eto, oherwydd ei wyneb sobr, a'i daw dieithr, naturiol oedd iddi gasglu hynny. Ymhen ychydig amser aeth Daff i'w wely, neu o leiaf i'w ystafell, ac yno yn ei ddagrau darllenai ac ail-ddarllenai'r llythyr fel un mewn breuddwyd.

Teimlai'r llanc, rywfodd, fod llaw gan Ragluniaeth yn hyn oll, a bod ei fam yn agos iawn ato y noson honno. Canys, onid oedd hi erioed, yn ei dyddiau dedwyddaf, wedi sôn ganwaith am weld Daff yn siopwr mawr, a hithau yn cadw ty iddo? Bellach, dyma'r cyfle wedi dod i'w mab, ond hyhi, fam dda, yn gorwedd yn ei bedd.

Credai Daff yn ddiysgog ei bod hi o fyd yr ysbrydion, yn ei annog i fynd at ei frawd; a hynny, iddo ef, a dorrai bob dadl. Rhaid oedd mynd, costied a gostiai! Ie'n wir, y gost-beth amdani? Nid oedd yr enillion wedi bod yn foddhaol yn ddiweddar, ac felly yr oedd gan Ddaff lai ar ei elw yr amser hwnnw nag à fuasai ganddo chwe mis yn ôl. Gofyn am help? Benthycio arian? Dim byth, oddiwrth undyn byw, leiaf o bawb oddiwrth y brawd na welsai mohono erioed! Nid oedd hwnnw yn ei lythyr wedi pennu un amser neilltuol ar ei ddyfod. Felly fe ysgrifennai yn ôl ato i dderbyn y cynnig ac i ddiolch amdano heb nodi dyddiad ei