Tudalen:Daffr Owen.pdf/79

Gwirwyd y dudalen hon

o flaen y fath bobl buasai wedi eistedd i lawr a chrio o doriad calon yn deg.

Allan yr aeth, fodd bynnag, a phob anadliad wrth gerdded hyd y stôr ymron â'i dagu. Meddyliodd unwaith am droi yn ei ôl a mynnu dangos llythyr ei frawd i'r weddw greulon. Ond ar wahan i'r gwrthdeimlad o'i wthio ei hun i bresenoldeb menyw heb groeso, gwyddai'n dda, os gallodd hi ddywedyd y pethau caled eraill, y taerai mai ei waith ef ei hun oedd y llythyr hefyd.

Trodd ei gefn ar y stôr angharedig, ac aeth yn ôl i'r depôt drachefn. Bu yn demtasiwn gref iddo yno gymryd y trên cyntaf yn ôl i New York, a cheisio dal aelodau'r côr cyn cychwyn ohonynt y fordaith. Ond moment o ystyriaeth a wnaeth iddo newid ei feddwl. Yn un peth, arian D. Y. a fyddai yn talu côst y trên, a pha fodd y gallai wynebu y bechgyn eilwaith ac esbonio iddynt yr amgylchiadau am wraig ei frawd? Ac ymhellach, byddai rhaid cael ychwaneg o arian i dalu am groesi Iwerydd, ac o ba le y gallai ofyn am y rheiny?

Na rhaid oedd wynebu'r byd unwaith eto, a dangos fod ganddo asgwrn cefn ei hun. Adeiladodd lawer castell yn yr awyr yn ystod y misoedd diweddaf, ond gwell eu chwilfriwio oll a chadw ei hunanbarch. Felly rhaid oedd trigo am dymor, o leiaf, yn ninas y paith, a gobeithio yr agorai rhywbeth iddo yno.