Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX,

CWERYL A CLAUDIA.

Uchelgais Claudia—Callineb y Papurau Cymraeg—Am i mi fod yn Syr Dafydd "—Sut i gael bod yn "Syr"—"Syr" John Piwlston—Anwybyddu Cymru — Tywysogion Anghofus—Cost y Briodas—Colli fy Nhymer— Côt of Arms Dafydd Dafis.

Mae wedi bod yn dipyn o helbul rhwng Claudia a mi Fel rwy'i wedi deyd o'r blaen, mae Claudia wedi gosod ei bryd ar adfeddianu'r safle gymdeithasol i'r hon y perthynai cyn iddi briodi â mi. Wna dim byd y tro iddi hi ond cael mynd i'r hyn a eilw hi yn "Society."

"Iw ar nohwêr and nobodi ynles iw can get intw Society," ebra hi.

Mi geisis i brofi iddi ei bod hi yn aelod o Society well eisys drwy ei bod yn aelod yn y capel acw, a bod Society gynon ni bob wsnos;—ond cododd ei thrwyn mor ofnatsan pan ddeydis i hyny nes i mi bron ofni na ddoi o byth nol i'w le wedyn;—ac yn wir o ran hyny, mi fuodd ryw gymint "owt of joint" am ddiwrnodiau.

Wel dyma sut y cododd yr helynt rhwng Claudia a minau'r tro dweutha yma. Byth er pan ddechreuodd y papurau yma gael eu llenwi â busnas priodas mab Twysog Cymru a'r Dywysoges Mai, mae Claudia wedi bod a'i thrwyn byth a hefyd yn y papurau rheiny. Chware teg i'r papura Cymrag, mae nhw gryn lawar callach na'r rhai Sasnag yn hyn o beth, fel llawar o bethau eraill; tyda nhw ddim yn mynd i roid y Briodas Frenhinol i'w darllenwyr