Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i frecwast, a chinio, a swpar, dydd, gwyl, a gwaith, fel y gwna'r Saeson. Ond mae Claudia wedi cymyd i llyncu fyny yn llwyr gan y fusnas frenhinol yma.

“David,” ebra hi'n sydyn un diwrnod, "peth braf fasa'ch cael chi yn Syr" (mi 'roeddwn i wedi i gweld hi yn spio dros ymyl y papur ata i ars tro, ond heb ddeyd dim).

"Ond tydw i'n Syr," ebra fina. "Mae pob llythyr ddaw imi yn dechra a 'Syr,' neu 'Anwyl Syr' o hyd."

"Lol wirion,"—a'r droed fach yn dechra chwara ar y ffwtstwl, "Pe 'taech chi'n 'Syr,' mi faswn ina'n Ledi."

"Ond tydach chi'n ledi, cyn gystlad a'r un o honyn nhw?" atebais ina. ""Toes yr un yn fwy o ledi nac yn dlysach ledi na chi'n dod i'r capal acw o ddechra blwyddyn i'w diwedd hi."

"Capal, capal, byth a hefyd sy gynoch chi," a'r droed yn curo'n gyflymach nag erioed. "Mi rydach yn dallt yn iawn be ydw i'n feddwl. Mi fasa 'Syr David Davies,' a 'Lady Davies' yn swnio'n reit dda—ac mi fasa'ch bod chi'n 'Syr' yn help garw i chi gael y'ch dewis i fynd i'r Parlament."

"Lol wirion," ebra fina. "Tydw i ddim am fod yn 'Syr,' a phe bawn i, 'Syr Dafydd Dafis' faswn i, ac nid 'Syr David Davies;' a tydi bod yn 'Syr' ddim yn help i ddyn fynd i'r Parlament chwaith. Dyna Syr John Piwlston, pwr ffelo, mi rodd o'n medru mynd i'r Senedd bob tro y cynygia fo pan 'roedd o'n ddim ond John Piwlston plaen, ond y tro cynta 'rioed iddo gynyg ar ol cael i wneud yn 'Syr,' mi gollodd y dydd, ac y mae yn ddyn siomedig byth."

"Ond mi dybia i y medrai Syr Dafydd lwyddo lle y methai Syr John," atebai hithau, gyda gwên, gan osod ei llaw ar fy ysgwydd.

"Da ngenath i, paid a roid dy fryd ar ryw wagedd fel