Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn yna," meddwn ina; "ac heblaw hyny, pwy siawns sy gyni i ddod yn 'Syr,' tybad?"

"Wel, mi ddeyda i chi," ebra hithau, gan dynu ei chadar yn nes ata i. "Mi fydd yma aml un yn cael anrhydedd hefo'r Briodas Frenhinol yma—mi fydd rhai yn cael eu gwneud yn 'Lords' a rhai yn 'Syrs,'—a 'does yr un rheswm yn y byd pam na ellwch chwithau fod yn un o honyn nhw."

"Ond sut hyny?" ebe finau mewn penbleth arw.

'Wel, wrth wneud rhywbeth tu allan i'r cyffredin hefo'r briodas yma. Mi rydw i wedi bod yn meddwl y gallwn ni wneud show reit dda yn ffrynt y tŷ yma y diwrnod hwnw. Mi fydd parti'r briodas yn mynd heibio fforma, chwi wyddwch, ac mi rydw i wedi meddwl am wisgo ffrynt y tŷ a sidanau a thlysau, a gwneud pont ar draws y ffordd, a goreuro hono o'r ddau tu—a chan mai ni yw'r unig Gymry yn y stryd, gwneud rhywbeth arwyddluniol Cymreig, ac felly'n y blaen. A chan mai mab Twysog Cymru ydi'r gŵr ifanc, ac mai Twysoges Cymru fydd y wraig ifanc ryw ddiwrnod, synwn i ddim na fedren ni lwyddo felly i gael y teitl i chwi—mae llawer yn i gael o am lai o beth o'r haner. Dyna Piwlston gafodd i wneud yn 'Syr John' dim ond am i fod o'n digwydd bod yn gadeirydd Pwyllgor y Steddfod pan ddaeth Twysog Cymru yno."

"Ac mi rydach chi'n credu fod serch y gŵr ieuanc at Gymru yn gymaint a hyny?" eba fi'n dawel.

"Ydw'n reit siwr," oedd ateb Claudia.

"Wel, rhowch i mi welad," meddwn ina. "Sut mae o wedi gwneud hyd yma. Dyna Steddfod Bangor bedair blynedd yn ol, mi ddaeth Brenhines Roumania,—estron nad oes a wnelo hi â Chymru—i'r Steddfod i Fangor. Mi