Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geisiwyd yn mhob modd yn y byd gael gan Dwysog Cymru i ddod, neu i ganiatau i un o'r ddau fachgen ddod—ond na, wnai o ddim."

Ie, ond bai Arglwydd Penrhyn oedd hyny," ebe Claudia'n frysiog. "Mi rydach yn cofio fod pobl yn deyd ddarfod i Arglwydd Penrhyn ymyryd y pryd hwnw."

"Ond beth am Aberhonddu, a Gwrecsam, ac Abertawe, a Rhyl, a Phontypridd ?" meddwn. "Ddaru Arglwydd Penrhyn ddim 'myryd â rheiny. Ond dowch yn nes atom. Dyma Cymru'n cymeryd rhan flaenllaw yn musnes y briodas yma; rhodd o Gymru, wedi ei gwneud o aur Cymreig o Sir Feirionydd, fydd modrwy'r briodas, ac ystyrir y rhodd genedlaethol Gymreig, fel ei gelwir, yn un o'r rhai gwerthfawroca roddir i'r pâr ieuanc. A beth yw'r tâl gânt am hyny?"

"Wel, beth hefyd," ebe Claudia.

"Wel," meddwn inau.

"Hyn ydi o. Parchu pob cenedl yn y deyrnas ond Cymru. Dyna wisg briodas y Dwysoges Mai, gyda Rhosyn Lloegr, Ysgallen Scotland, a Shamrock y Werddon, wedi eu gweithio i fewn iddi. Ond nid oes son am Geninen Cymru, arwyddlun y wlad o'r hon y ca tad y gŵr ieuanc ei deitl, ac o'r hon y ca yntau ei deitl os bydd ei dad byw i ddod yn frenhin. Dyna'r tâl ga Cymru fechan dlawd gan y genhedlaeth frenhinol yma."

Gwasgodd Claudia ei gwefus, ond ni ddywedai ddim. "Pa faint oeddech chwi'n fwriadu dreulio ar addurno'r tŷ yma i'r briodas?" meddwn.

Wel," meddai hithau'n betrusgar, "mi roeddwn i'n meddwl y medrwn i wneud show go lew am o ddau i dri chant o bunau."

"Felly," meddwn. "Tebyg genyf fod yma o leiaf gant o bobl wirion fel chwithau yn Llundain yn barod i wario o