Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau i dri chant o buna'r un i addurno eu tai am y diwrnod. Dyna draul o 20,000p. i 30,000p. heb gyfrif y treuliau eraill. Dywed y papurau fod y rhoddion priodasol yn werth 250,000p., a bydd y treuliau eraill i ddathlu'r amgylchiad drwy'r wlad o leiaf yn 250,000p. arall. Dyna 500,000p. yn cael eu gwario yn ddiraid ac yn ddiamcan, a buasai yr un peth eu taflu i ganol y môr. A thra y gwerir yr holl arian hyn yn ddiraid mae miloedd o drueiniaid yn ein gwlad yn dioddef eisieu bwyd. Cyfrifir fod yn Llundain yma dros filiwn o bersonau yn ymddibynu ar enillion dynion nas gallant gael gwaith parhaus. Byddai'r 500,000p. yma yn rhoi chweugain yr un, neu fwyd a llety am wythnos, i bob un o'r trueiniaid yma. Neu cymerwch Gymru. Dyna weithwyr y Llechwedd yn Ffestiniog, bum cant ohonynt allan o waith, a'u teuluoedd lawer ohonynt yn dioddef eisieu bwyd, a llawer mwy ohonynt mewn perygl o hyny. Pe roddid y 500,000p. ar log, gallai pob un o'r gweithwyr sydd allan yn Ffestiniog heddyw gael punt yr wythnos tra parha'r streic, a byddai'r corff wedyn yn aros i gynorthwyo trueiniaid eraill. Ac eto, dyma chi'n son am i mi wario 200p. i 300p. am ddim ond er mwyn enill teitl gwag i mi fy hun! Na wnaf byth! Aed y teitl a'r rhai a'i gwerthant i grogi cyn byth y gwnaf ffasiwn beth! Ac os ydych am dynu sylw at y tŷ, y ffordd sicraf i chwi wneud hyny ydi trwy beidio gwario dimai ar ryw ffaldilal o addurniadau gwag. Byddwch felly yn wahanol i bawb, a'ch cydwybod yn llawer esmwythach na phe baech wedi gwario eich arian ar yr hyn nid yw fara tra bo cymaint caledi ac angen, ie, a newyn du, yn ein gwlad."

Ambell waith iawn y bydda i'n mynd o ngho las at neb, ac yn fwy anaml fyth at Claudia, ynte. Ond mi roeddwn