i wedi bod yn myfyrio ar y draul ofnadwy fwriedid mynd iddo ynglŷn â'r briodas, a minau wedi bod y boreu hwnw yn ymwelad â theulu o Gymry tlodion yn yr East Endmi roedd y wraig, druan, pan yn hogan, wedi bod yn mynd i'r un ysgol a mi pan oeddem blant, a fel bydd plant, ynte, mi fyddem yn caru'n gynes iawn. Ond phriodais i mo honi—trwy drugaredd; ac mi roedd y gŵr 'rwan yn sal ars wsnosau, a phan eis i yno'r bora hwnw 'doedd dim tamad o fara wedi bod yn y tŷ ars deuddydd. "Toeddwn i ddim felly mewn hwyl i feddwl am luchio arian ar wagedd o'r fath—ac mi eis i o' ngho.
Teflais fy het ar fy mhen, a ffwr a mi, gan adael Claudia'n syn a dig ac mewn dagrau.
Moni ddaru hi'n ofnadwy am rai dyddiau, ac ni chefais olwg arni ond ar brydiau bwyd, gan ei bod yn ffoi i'w bodywor fel y geilw ei 'stafell ddirgel ei hun. Yn ei body wor yr oedd yn treulio ei hamser ddydd a nos yn mron.
"Gadewch iddi," ebe fi wrthyf fy hun, er fod fy nghalon yn glaf hefyd o eisio ei chwmni," gadewch iddi. Mi gaiff dipyn o de time, ys dywed y Sais; peth rhyfadd ydi amsar i ddod a phobl i'w lle."
Wel, mi gefis fy ffordd. Threuliwyd dim ond 'chydig sylltau i addurno'r tŷ, a gwnaed hyny'n gwbl âg arwyddluniau Cymreig. Mi roedd y Ddraig Goch yn y canol, yn chwareu'r delyn, ac yn bwyta'r cenin oeddent wedi eu plethu o'i chwmpas.
Eidea Claudia oedd hyny, ac mi adewis iddi gael ei ffordd, er na chlywis i 'rioed fod y ddraig—prun ai coch ai glâs a fyddai—yn hoff o'r delyn nac o genin chwaith.
"Byt iw si, David, it is so apropriet, and emblematic and syjestif of efrithing Welsh," ebe hi.