"Dichon hyny," ebra fina. "Ond os yda chi am gael arwyddluniau Cymreig, pam na chysylltwch chi nhw âg arwyddluniau Dafydd Dafis?"
Trodd ata i'n syn.
"And iw haf got a ffamili côt of arms, dden!" llefai yn llawen. "Mi wyddwn y tro cynta hwnw gwelis i chi wrth ddrws y thiatr hono, eich bod o deulu pendefigaidd. Mae rhyw netif nobiliti yn perthyn i rei pobol, ac mi rydach chi, David, yn un o'r rheiny."
"Ie," ebra fina, tipyn yn amheus beth i ddeyd.
Ac wrth feddwl am y peth mi ddaeth i ngho i sgwrs glywis i'r dydd o'r blaen rhwng lot o ferchiad sy'n cymyd arni nhw fod yn dipyn o swels.
"Ei cant ynderstand," ebra un o honyn nhw, "how Mr. Lloyd George is ebl tw egsist in Carnarfonshïr. Hi isnt recogneisd bei eni of ddi cownti ffamilis."
"Tad anwyl be da chi'n son am eich cownti ffamilis," ebra Gwyneth Vaughan, gan droi o gwmpas at y ddynes wirion fel petai hi am ei llyncu hi fel tasa. "Be da chi'n son am eich cownti ffamilis deydwch? Tybad na tydi etholwyr Lloyd George ddim yn ddigon da iddo fo gymdeithasu hefo nhw ? Cownti ffamilis yn wir!
Iw mê sniar, byt cownti ffamilis ar cownti ffamilis ffor ol ddat. Byt pyrhaps iw dont fisit ddem iwarselff? "ebra'r ddynes wirion gan godi ei thrwyn a chyrlio congl ei gwefusa.
Mi sbiodd Gwyneth arni am fynud, a'r merchiad erill erbyn hyn wedi casglu o gwmpas ac yn gwrando gymint fedra nhw.
"Mae'r cwbwl yn ymddibynu be da chi'n ei feddwl wrth cownti ffamilis," ebra Gwyneth yn dawel. "O'm rhan fy hun mi rydw i'n digwydd bod wedi disgyn o Owain