Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwynedd, un o hen Dywysogion y Gogleddbarth—and tw bi disended ffrom a Prins is cweit gwd ynyff ffor mi!" Pytaech chi wedi gwelad gwynab y ddynas arall !

Ond deyd roeddwn i, ynte, am y sgwrs cydrhwng Claudia a minau.

"Wel?" gofynai Claudia.

"Wel, be?"

"Wel hwot is iwar ffamili côt of arms?—ac yn tynu ei llaw drwy fy ngwallt fel bydd hi'n gwneud pan fydd hi mewn tymer gwell nag arfer o dda.

Mi gosis inau nghern yr ochr arall er mwyn i mi gael ystyried, ynte. Ddaru chi sylwi 'rioed fel bydd cosi cern yn helpio'r 'menydd i wneud ei waith 'rwan?

"Y Ddraig Goch ydi rhan o arwyddlun ein teulu ni," meddwn, gan feddwl cyfansoddi wrth fynd yn mlaen, welwch chi—rhyw fath o Araeth Ddifyfyr fel tasa—nid fel Englynion byrfyfyr y Beirdd adeg Cadeirio, y rhai sy'n cael eu partoi'n ofalus yn mlaen llaw.

'Mei wyrd! Of royal blyd! Byt Ei niw it! Ei niw it!" gan guro ei dwylaw yn llawen, ac yna yn eistedd ar fraich fy nghadair, ac yn troi'r gwallt 'nol oddiar y nhalcan i. A coronet wd lwc grand on ddis nobl brow," a rhodd gusan ar y nhalcan i.

'Toeddwn inau'n deyd yr un gair, gan mod i'n chwsu oddifewn wrth geisio cyfansoddi. Ddylia chi 'rioed fath job galad ydi cyfansoddi, hyd yn nod côt of arms, tan bo chi'n gorfod gneud fel roeddwn i'r diwrnod hwnw.

"Ies," ebra Claudia wedyn. "A Red Dragon. Byt how? Cowtshant or rampant?"

Wel, wyddwn i ddim be oedd cowtshant na rampant, ond mi awgrymodd y gair cynta feddylddrych newydd spon imi.