Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cowtshant" ebra fi.

"Ddats strenj," ebra Claudia, gan roid blaen ei bys ar ei gên—dyna fydd hi'n wneud yn lle cosi ei chern, welwch chi.

'Ie," ebra finau. "Mae yn hynod. Welis i run run fath ag o erioed."

"Byt discreib it, discreib it, David diar."

"Oh, 'toes dim desgrifio pellach arno fo," ebra fi. "Fel deydis i, cysylltu'r Ddraig Goch â Buwch ydi'r syniad." "Ddats feri neis! And how is it don?"

"Oh, mae'r Ddraig Goch welwch chi yn y shaffts yn tynu Car Llaeth, a minau â chwip yn gyru!"

Ddeyda i ddim be ddeydodd Claudia, ond mi aeth allan o'r 'stafell ar ei hunion, a minau'n diolch na 'toedd dim powder magasin ger llaw neu mi fasa'r tân o lygid Claudia wrth fynd allan yn sicr o beri ffrwydriad!

Ond fel rwy yn y fan yma, mi gadd Claudia infiteshyn yn nghyntaf oll i'r Garden Parti y dydd cyn y briodas, ac yno 'roedd hi yn ei sidanau gystal a'r un o honyn nhw; a hi a Tom Ellis, os gwelwch yn dda, y ffrindia gora a Twysog Cymru, a Mrs. Cymru, a'r Misses Cymru, yn cerdded fraich yn mraich hyd y lle; ac mi 'sgydwodd law â'r hen ledi ei hun—y Frenhines, chwi wyddoch. Sut y llwyddodd i gael hyn sydd ddirgelwch i mi, ond mi roedd hi yn falch.

A phan ar ol hyn y daeth gwâdd iddi i'r briodas, mi ddylis i na fasa dim posib byw hefo hi wedyn. Mae wedi bod yn poeni nghalon i wrth adrodd straeon am wisgoedd y ledis oedd yno i gyd, a'r hyn oedd y bobol fawr yno yn ddeyd wrth 'u gilydd ac wrthi hitha.

{{nop}]