Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

DALEN O F'HANES BOREUOL

Y Frenhines a Claudia—Profedigaeth Mr. Rathbone—Clos y Gogledd, a Chlos y De, a Chlos Nein—Y Carpenter a'r Watchmaker—Y Jacs-in-ddi-bocs Gwyddelig—Pobl Arfon a Mr. Rathbone.

Mi rydw i wedi diolch lawer gwaith mai un o feibion Adda ac nid un o ferched Efa ydw i. Pytawn i'n ferch yn lle rhyn ydw i, mi faswn wedi treulio'r cnawd oddiar f'esgyrn yr wsnos hono ar ol priodas mab Twsog Cymru. Nid trwy waith, eithr trwy chwilfrydedd.

Mi roedd Claudia'n taflu allan awgrymiad o dro i dro fod rhywbath eto i ganlyn ar ol y gwahoddiad i'r gardn parti a'r briodas, ond pan geisis i ganddi ddeyd be oedd o i fod, wnai hi ddim. Mi fedar Claudia fod mor stiwpid a mul pan fydd hi'n leicio—ac mi roedd hi'n leicio'r wsnos hono!

Pytawn i'n ferch mi faswn wedi tori nghalon eisio cael gwybod, ynte, be oedd gyni hi, ac mi faswn wedi mynd yn fwy sal nag y buodd Efa cyn bwyta'r afol hwnw ars talwm.

Ond gan mai nid dynes ydw i, eis i ddim i boeni f' hun i gael allan be oedd gyn Claudia, a chan ei bod hi wedi cael ei llyncu i fyny yn llwyr gan y peth hwnw—gan nad beth ydoedd ac nad oedd dim i'w glywed gyni hi ond son am Windsor Castle, a Buckingham Palace, a'r Twsog, a'i wraig, a'i fam, a'i blant, a'i deulu, a'i deulu yn nghyfraith, a rhyw