Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lol felly, mi fu'm i'n fwy ffyddlon nag arfar i'm cydgynulliad yn yr Hows of Comons.

Mi roedd y Tŷ yn nghanol brwydr fawr mesur mawr Hom Riwl Gladstone, ac mi roedd yn biti gyn i am yr hen greadur yn cario'r ffeit hono'n mlaen dros genhedlaeth mor aniolchgar ag ydi'r Gwyddelod, ac yn ngwyneb gwrthwynebiad ciwaid mor greulon ag ydi'r Toriaid tuag ato fo. Nid na tydw i'n credu f' hun mewn Hom Riwl—ond mod i'n teimlo dros yr hen ŵr welwch chi. Mewn llawer rhan o'r frwydr gallasai ddeyd "Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd neb gyda mi.” Mi ddylasa Hom Riwl, pan ceir o, fod yn beth reit dda, hyny ydi os yda ni i'w brisio yn ol yr hyn mae wedi gostio; mae'r Rhyddfrydwyr eisys wedi talu'n ddrud ofnatsan am dano fo, gan nad sut.

Wel, mi welis Rwystraeth yn dyrchafu ei ben yn hyf a digywilydd, a'r Hen Wron yn diodda fel sant am yn hir. Ond, o'r diwedd, mi 'maflodd yn nghorn gwddw Rhwystraeth, ac mi llindagodd o, ac mi fynodd basio darnau helaeth o'r Hom Riwl Bil yn hôlsêl ar waetha'r Toriaid. Mi roedd Balfour yn gynddeiriog, ac yn sgyrnygu i ddanedd yn ofnatsan—ond druan o hono, 'toedd neb yn hitio dim yntho fo. Ac er llawenydd mi brofodd y Cadeirydd, Mr. Mellor, ei hun yn gadeirydd o'r diwedd yn lle yn rhyw hen wreigan fel yr arferai fod am yn hir; mi ddangosodd ei hun yn ddyn, ac mi steddodd ar Chamberlain nes oedd hwnw mor fflat a chrampogen.

Un bora, pan agoris i'r bag llythyrau—mae Claudia wedi mynu preifet letar—bag ars pan gawson ni'r garej a'r ddau geffyl glâs, ac agoriad gyni hi ac un arall gyn ina—mi welis lythyr mawr a'i hanar o wedi ei orchuddio â siling wacs. Mi roeddwn yn ei droi o yn fy llaw gael imi gael