Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwelad ar y postmarc o ble roedd o, pan ruthrodd Claudia'n mlaen, a chipiodd ef allan o'm llaw, gan ddeyd

"Thane Hefn! It has cym!"

Ac yna rhuthrodd ffwr i'w bodywor wedyn, gan fy ngadael i mewn mwy o syndod nag erioed, a gadael y llythyra erill heb gymint ag edrych arnyn nhw.

Pan ddaeth hi yn ei hol mi ddeallis mai llythyr oddiwrth yr hen ladi o Windsor Castle oedd o, ond wnai hi ddim deyd be oedd yno fo.

Tryst mi, David, diar," ebra hi. "Ond fedra i ddim. deyd wrtha chi be sy yno fo. Tydi hi ddim yn eticet i ddeyd pethau fel ma with neb nes bo nhw wedi bod yn y 'Gazette' yn nghynta."

"Toedd gyn i felly ddim ond gobeithio na 'toedd hi ddim wedi llwyddo i gael teitl imi; mi fasa'n well gyn i fynd yn Aelod Seneddol na hyny!

O ddiffyg rhywbath gwell i wneud, eis yn gyson tua'r Hows of Comons, gan astudio'r Aelodau a'u gweithrediadau fel pe taswn yn mynd i sefyll arholiad yn y sybject hwnw o flaen y Sasiwn.

"Toeddwn i ddim heb ofni peth hefyd, canys mi rydw i'n cael mai byd reit bechadurus ydi byd y Senedd yma, a bod llu o demtasiynau yn ffordd yr aelodau, ac y gall llawer un ohonyn nhw ganu:

"'Rwy'n gwyro weithiau ar y dde
Ac ar yr aswy law."

Pe tae Mistar Rathbone yn Gymro, mi allase fo ganu yr hen benilll yna gydag arddeliad anghyffredin yr amser hwnw, waeth ambell dro y ceid ef yn medru rhodio'n union ar hyd llwybr cul Mesur Hom Riwl Gladstone; ond gan mai Sais ydi o, heb ddallt rhyw lawer ar y Gymraeg