Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagor nag y mae o'n ddallt am Gymru na theimladau Cymry, o bosib y deyda fo amen i benill Dr. Watts:

"For Satan finds some mischief still
For idle hands to do."

Pe tae Mr. Gladstone wedi rhoid tipyn o riwbath i Mistar Rathbone i'w wneud— deydwch fel President y Local Government Board neu rywbath felly,—o bosib na fasa'r gŵr drwg ddim wedi cael o hyd iddo a'i demtio oddiar lwybr rhinwedd a dyledswydd Rhyddfrydol mor aml ag y gwnaeth.

Be di "clos"

Un nos Iau mi rodd yno lawer o dwrw yn y lobis yn gystal ag yn y Tŷ. Mi rodd pawb yn son am Clos Nein fel y'i gelwid.

Mi fum i am spel yn methu dallt be oedd yr aelodau yn son byth a hefyd am y clos hwn a'r clos arall.

Mi wyddwn i'n iawn be oedd clos cyn imi 'rioed ddod i Llundain; clos penglin fasa nhad yn i wisgo bob amser. Mae'n wir wedi imi ddod i gyffyrddiad â rhai o bobl y South, Towyn Jones 'rwan, a rhei felly, mi gefis allan mai nid peth i wisgo ydi clos yno, ond buarth. Ond 'toedd dim buarth yn yr Hows of Comons, a'r unig clos welis i yno oedd y clos penglin a wisgid gan rai o'r swyddogion. Ond wrth wrando a sylwi a pheidio deyd llawar, mi ddois i i wybod mai "Adran" feddylid wrth "Clos" yn iaith y Senedd.

Dichon mai chwerthin am y mhen i wnewch chi am mod i mor wirion na 'toeddwn i ddim yn gwybod be oedd clos. Ond rhaid i chi gofio na 'toedd dim son am clos ynglŷn â'r busnes llaeth—ond gyn bobl Sir Gaerfyrddin; na chyn Claudia chwaith, a gyni hi y dysgis i fwya o Sasnag.

'Chydig ŵyr pobol y dyddiau yma am yr anhawsder