Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Cymro uniaith yn gael ars talwm pan yn ceisio hel tamad o fwyd yn Lloegr. Mi 'rydw i'n cofio'n iawn am dana i pan ddois i fyny i Lundain yma gynta, heb wybod ond y nesa peth i ddim Sasnag, a'r tipyn wyddwn i yn ddigon stiff a bratiog.

Mi roeddwn i wedi bod yn chwilio'n hir ac yn ofer am rywbeth i'w wneud yn rhwla; toedd dim gwaith, neu os oedd mi roedd rhywun o'm blaen neu mi yn methu a dod o hyd iddo. Wel, mi roeddwn i ar glemio'n lan—yn mhen deuddydd neu dri oedd hyn ar ol imi achub bywyd yr hogan bach hono yn y garej yn ymyl Park Lane fel y deydis i eisys. 'Toeddwn i ddim wedi cael ceiniog byth ar ol y chwech hono, ac mi roeddwn i wedi cynilo'r pres rheiny gymint byth fedrwn i. Ond er cymint gynilwn i mynd 'roeddan nhw, ac mi deimlis fel tasa dafn o waed y nghalon i'n mynd pan aeth y dimai ddweutha am damad o fara, a minau heb un math o ragolwg y cawn i ddimai arall yn ei lle hi gwnawn i wnawn i.

Wel, mi roeddwn wedi gwario'r ddimai olaf hono, ac wedi bwyta'r tamad dweutha o'r crystyn brynis â hi, ac wedi cysgu noson ar gylla gwag a phalmant calad tan gysgod un o'r pontydd, ac wedi codi bora tranoeth a'r unig wahaniaeth oedd fod y palmant 'rwan dan fy nhraed yn lle o dan fy nghefn, a bod fy nghylla'n fwy gwag nag oedd o'r noson cynt. Wel mi gerddis am oria yn chwilio am ryw job fedrwn i wneud, ond y cwbl yn ofer.

Eis fyny ar hyd y Strand, yn syllu ar ffenestri, pan yn sydyn mi welis enw ar sein o'r tu allan i ryw shop. Un gair oedd o :

Carpenter.

Er lleied o Sasneg oeddwn yn wybod mi wyddwn ddigon i wybod mai saer coed oedd carpenter, ac mi dybis f'alla,