Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy ddamwain a lwc, gallaswn gael job gynthyn nhw yn ngweithdy'r saer hwnw. Mi roeddwn i wedi dechra dysgu crefft saer cyn marw nhad, a tasa fo wedi byw, dichon mai saer faswn i heiddyw. Mi rydw i'n diolch na tydw i ddim, chwaith, canys pe tawn i wedi aros yn Llanidris pwy fasa gŵr Claudia 'rwan?

Felly mi eis i fiawn i'r shop gael imi gael gofyn yno oedd yno job fedrwn i wneud, llifo coed, neu gario coed, neu rywbath gael imi gael enill ceiniog medrwn i gael bwyd.

Wedi imi fynd fiawn i'r shop, dyna lle 'roedd gŵr trwsiadus tucefn i'r counter, ac mi welis mai shop watchmaker oedd hi.

Mi ddylis ar y cynta mod i wedi gwneud camgymeriad, a mi ofynis:

"Ddis carpenter?"

"Ies," ebra'r gŵr bonheddig tu nol i'r counter. Gan sbio'n amheus arna i—a toeddwn i'n synu dim at hyny, waeth mi roedd golwg ryfadd arna i, toes dim dwywaith, ac mi fasa golwg ryfadd arnoch chwithau tae chi wedi gorfod byw am dair wsnos fel 'roeddwn i wedi byw—pytai hyny yn fyw hefyd y tair wsnos cynta rheiny yn Llundain.

"Ei lwc ffor job," ebra fi, er mwyn gwneud iddo ddallt nad lleidar oeddwn i, ac mai nid dod yno i ladrata oedd f'amcan. "Iw wont a job?" ebra fo. "Ar iw a watchmaker?" "No," ebra finau, "Ei carpenter."

'Toeddwn i ddim yn feistar ar y gelfyddyd wrth gwrs, ond 'toeddwn i ddim yn tybied mod i'n pechu dan yr amgylchiadau wrth ddeyd mod i'n garpenter chwaith.

"A carpenter?" gofynai. "Hwot dw iw wont hiar?" "Ddis carpenter shop?" gofynais mewn atebiad.

"Ies. Ddis is mei shop," meddai.

"Iw carpenter?"

"Ies"