Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Plïs gif mi job," erfynais. "Ei worc dê and neit tw yrn peni or tw tw bei bred. Hwer carpenter shop? Ei sô, or hamar, or plên leic enithing ffor symthing tw it!" Ac wrth enwi'r pethau fedrwn i wneud mi roeddwn yn gwneud osgo fel pe baswn i'n gwneud y pethau rheiny, yn llifo, a morthwylio, gael iddo gael deall rhag ofn na 'toedd o ddim yn dallt y'n Sasnag i welwch chi.

"Byt mei diar ffelo," ebra fo, "Ei haf no carpenter's worc, Ei am a watchmaker."

"Carpenter on sein, syr," ebra fina.

Gyda hyn dyma fo'n chwerthin nes oedd y dagrau'n llifo o'i lygid o.

"Toedd dim chwerthin yn agos at y nghalon i, coeliwch fi. Pan ddaeth o ato'i hun mi sboniodd imi mai ei enw fo, ac nid enw ei alwedigaeth oedd y gair "Carpenter" oedd wedi fy nghamarwain.

Wel, mi roeddwn i'n rhy sal gan eisio bwyd, a siom, i deimlo cywilydd, ac wedi begio'i bardwn o mi drois i fynd allan gan feddwl falle mai'r afon Thames oedd yr unig gyfaill imi i fod yn Llundain, ac y cawn wely yn hono lle gallwn anghofio'r cwbl o'm helbul.

Cyn imi gyrhaedd y drws, galwodd Mr. Carpenter fi'n ol, ac estynodd dair ceiniog imi.

"Iw lwc an onest ffelo," ebra fo, "go and get a cyp of coffi and a rôl."

Diolchais iddo, ac allan a fi a'm calon heb fod fawr yn sgafnach nag oedd fy llogell yn drymach.

Ond rhaid imi beidio mynd ar ol y rhan hono o'r stori 'rwan, ond troi at f'hanas yn Nhŷ'r Cyffredin. Mi ddaeth y stori am Mr. Carpenter i'm co pan oeddwn i'n ceisio gwneud allan yn yr Hows of Comons be oedd Clos, a 'rwan mi a i'n mlaen â'r rhan hono o'r stori.