Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel 'rydach chi'n cofio mi rodd Mistar Gladstone wedi bwriadu gwneud yr aelodau Gwyddelig yn rhyw fath o Jacs—in—the—bocs yn y Senedd. O dan Adran y Nawfed (hyny ydi Clos Nein), fel yr oedd hi gynt, 'toedd dim o'r Gwyddelod yn cael fotio o gwbl ar gwestiyna yn perthyn i Loegar, Scotland, Cymru, na Llanrwst. Mi rodd y Parlament i fynd yn mlaen hebddyn nhw fel pe na bae nhw mewn bod. Ond pan ddeutha rhyw gwestiwn Ymherodrol gerbron—whiw—dyma'r Gwyddelod i gyd i fyny fel Jac-yn-y-bocs. Wel mi ddaeth yr hen ŵr i welad na wnai hyny ddim mor tro. Mi rodd yn rhaid i'r Gwyddelod i gael bod yn gyflawn aelodau, neu ynte eu diarddel nhw oltwgethar.

Mi benderfynodd Gladstone, ar ol cael barn i ganlynwyr ar y mater, mai cadw'r Gwyddelod,—neu 80 yn lle 103 o honyn nhw—yn gyflawn aelodau fyddai oreu. Yn hyn yr oedd o'n gweithredu, yn unol a llais mwyafrif mawr i bleidwyr o. Ond mi roedd Mistar Rathbone yn gallach o'r hanar na fo—yn ei feddwl ei hun. Fynai o ddim i'r Gwyddelod gael llais o gwbl yn materion Prydain os oeddan nhw i gael Hom Riwl.

"Lwc hiar," ebra Tom Ellis wrtho fo, "neith hi ddim o'r tro ini golli fôts y Gwyddelod. Trowch chi'r 85 Gwyddelod sydd dros Hom Riwl allan o Dy'r Cyffredin, ac mi gollwn ni yn Nghymru 85 ọ fôts dros Ddadgysylltiad,ac mi gawn aros hyd y mil—flwyddiant cyn y cawn ni Ddadgysylltiad gan y Toriaid Seisnig. Peidiwch a bod yn wirion, Mistar Rathbone bach. Dowch gyda ni fel cynt, dders a gwd ffelo."

Ond ddoi o ddim. Mi roedd o'n rhy glyfar o'r hanar. Mi fyna fo gael ei ffordd ei hun. Mi rodd rhai yn deyd fod Samuel Smith am fynd hefo fo, ond pan ddeydis