Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i hyny wrth Herbert Lewis, mi sgydwodd hwnw 'i ben.

"Na," ebra fo, "mi diffeia i Samuel Smith; tydi o ddim cyn wirioned."

Ond gwirion ai call, mynd 'i ffordd i hun ddaru Rathbone, gan arwain yr holl gang Toriaid ar 'i ol, a Balfour a Chamberlain yn wincio ar eu gilydd wrth i ganlyn o yn erbyn Gladstone a'r Rhyddfrydwyr a'r holl aelodau Cymreig.

Ond os do! Tasech chi yno nos tranoeth! Pan ddaeth o i lawr i'r Tŷ ddydd Gwener, mi rodd yno lwyth trol o deligrams yn i aros o wedi dod o bob rhan o Arfon, ac yn deyd y drefn yn ofnatsan wrtho fo am i fod o mor wirion. Mi rodd llawar o honyn nhw yn i fygwth o'n arw, ac yn deyd y rhaid iddo adael ei ffyrdd cyfeiliornus neu edrych am ryw rai mwy parod i ddiodde rhyw lol wirion fel hyn na phobl Arfon.

Ac a dweyd y gwir yn ddistaw bach, mi gefis ina gryn haner dwsin o deligrams yn gofyn imi wnawn i ddod allan y lecshwn nesa yn i erbyn o. Mi aeth rhei o'r teligrams i Nymbar 963, Park Lane, a rhei i'r Hows of Comons, lle cefis i nhw nos tranoeth gyn Tom Ellis.

"Ydi hyn yn arwydd o'r amserau, Mr. Dafis?" gofynai Ellis wrth estyn y teligrams imi. "Cyming ivents cast ddeiar shados biffor, mi wyddoch."

"Beda chi'n feddwl, deydwch ?" gofynis.

"Wel, gwelad y teligrams yma'n cael eu cyfeirio i chi i'r Hows of Comons," ebra fo.

Ond digon rhwydd oedd sponio hyny, fel deydis i wrtho fo. Mi roedd pobl Arfon wedi dallt drwy'r Genedl fod Claudia ar y lwc owt am le i mi, a'm bod ina'n Gymro i'r carn, ac yn sgwenu i'r Genedl o'r Hows of Comons,—ac yn