Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glamp o Fethodus i'r fargen, tae fater am hyny—ac wedi tybied y gallwn i neud rhywbeth go lew.

Ond prun ai hoffwn i fod yn sedd Mr. Rathbone ai peidio, leiciwn i ddim cael bod yn i sgidia fo ar hyny o bryd. Mi roedd pobl Arfon yn bygwth galw Cynadledd fawr o'r etholwyr i eistedd ar y mater, ac i alw Mr. Rathbone ger bron y seiat yno. Ond 'toeddwn i ddim yn credu y gnaen nhw chwaith! "Toedd dim digon o asgwrn cefn yn yr arweinwyr i wneud hyny nes byddai Mr. Rathbone wedi pechu mwy na hyn.

Mi glywis i'r dydd o'r blaen stori hollol wir am y fusnes yma na wnawd yn hysbys erioed o'r blaen, ond sy'n werth ei deyd 'rwan.

Pan ddaeth Gladstone a'i Fesur Hom Riwl ger bron y Tŷ yn 1886, a phan oedd Hartington (y pryd hwnw) a Chamberlain yn bygwth troi'n wrthgilwyr a gwrthryfelwyr, darfu i rei o'r Rhyddfrydwyr mwya pwyllog geisio cyfanu'r rhwyg cyn basa hi'n mynd yn rhy ddrwg i'w chyfanu. Gwnaed cytundeb dirgel a Gladstone, basa fo, ar yr Ail Ddarlleniad, yn deyd yn ei araeth y basa fo, os pesid yr Ail Ddarlleniad, ac felly gadarnhau egwyddor y mesur, yn boddloni tynu'r Bil yn ol am flwyddyn er ystyried yn mhellach y cwestiwn o safle'r Gwyddelod yn Senedd Prydain. Boddlonodd Hartington a Chamberlain pe gwnai efe hyn, y gwnaent hwythau sefyll tu cefn iddo fo, a pheidio gwrthryfela. Ond mi glywodd y Gwyddelod am y peth, ac mi aeth rhai o honyn nhw at Gladstone gan ddeyd wrtho fo os gwnai o hyny y basa nhw'n gwrthryfela. Felly dewisodd yr Hen Wr oddef adfyd gyda'r Gwyddelod yn hytrach na mwynhau heddwch gyda'r Iwnionists. Taflwyd ei Weinyddiaeth allan, a bu'r Philistiaid yn meddianu'r wlad am chwe mlynedd—tan Etholiad 1892!