Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

CYFFESIAD BRYN ROBERTS.

Tê Parti yn ein Tŷ Ni—Bryn Roberts a D. A. Thomas ——Cyffelybiaeth Farddonol—Y Ddeiseb ynghylch y Brifysgol — A oes Plaid Gymreig?—Dameg Bryn Roberts—Aralleiriad D. A. ThomasBeth fydd nesa?

Dyma fi bellach yn dod at eglurhad Mistar Bryn Roberts ar ei waith yn peidio seinio'r petisiwn at Mr. Gladstone. Er mwyn i chwi ddallt, yn ein tŷ ni yn Nymbar 963, Park Lane, y bu y scwrs. Mi roedd Claudia wedi inveitio Mri. Bryn Roberts a Lloyd George, a D. A. Thomas acw i dê ryw brydnawn. Mi fydd hi yn credu cymint mewn cypaned o dê ag y fydd Lloyd George ei hun. Ond er hoffed ydi o o gypaned, ddaeth o ddim i gyfarfod y ddau arall,—a gwaeth na'r cwbwl ddaru o ddim ysgrifenu'r un gair mewn atebiad i'r infiteshyn. Er na ddeydodd hi rhyw lawar, mi ddigiodd Claudia'n arw wrtho fo na fasa fo'n ateb i llythyr hi hefyd.

Ond fel 'roeddwn i'n deyd, mi ddaeth y ddau arall, a rhwng bodd ac anfodd mi gawson ni gryn lawer allan o honyn nhw. Tydw i fawr o law fy hun i holi pobol,—ond Claudia am dani hi! Mi wnaethai hi interfiwer ffyrst clas ar bapur newydd. Rhyw gorcscriw o ddynas ydi hi fedar dynu allan yr hyn fydd ar feddwl dyn gan nad pa mor sownd fydd corcyn ei benderfyniad i beidio deyd. Ac felly buodd hi'r tro yma.