Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi dybia i fod y gyffelybiaeth yna yn un dra barddonol. Byth er pan ddeydodd Claudia i bod hi am i mi gael fy urddo yn y Steddfod, mi rydw i'n chwilio am gyffelybiaethau uchelryw. Mi rydw i'n deyd hyn 'rwan er mwyn cael copireit yn y gyffelybiaeth yma am y corcscriw a'r corcyn, rhag i rai o'r beirdd ei lladrata ac enill cadair drwyddi.

"Anyddar cyp of ti, Mr. Roberts," ebra Claudia, gan roid gwên mor felus iddo fo fel na fasa raid iddo wrth swgwr yn ei dê am fis. "Mr. Thomas, ddat cec is mei ôn mec, and Ei can recomend it.”

Ac felly'n y blân. Ond cydrhwng y cypaneidie tê, a'r darnau bara brith, a'r compliments, yr oedd y scwrsio yn mynd yn mlaen.

Mi rydach chi'r aelodau Cymraeg yn gweithio o ddifri tua'r Senedd yna 'rwan," ebra hi.

Ydan, mi rydan yn gneud ein gora i gadw pethau'n streit," ebra Bryn, gan droi y tê yn y gwpan.

"Felly rwy'n dallt," ebra Claudia. "Mi glywis fod Mr. Gladstone yn cwyno i fod o'n ofni y ceith o drafferth cyn hir, i'ch cadw'n dawel."

Pesychodd Bryn, a winciodd D. A. Thomas arnaf fi ar draws y bwrdd.

"Ond tydach chi fel aelodau Cymreig wedi gyru rhyw ddau betisiwn at y Llywodraeth?"

"Dau?" gofynai'r aelod dros Ferthyr.

"Ie. Un ar Ddadgysylltiad, ac un ar y Brifysgol."

Tro D. A. Thomas oedd pesychu 'rwan, ond mi roedd Claudia yn rhy gyfrwys iddo ddianc.

'Peth reit ffein," ebra hi, "ydi cael yr aelodau Cymreig yn dallt u gilydd mor dda, ac yn cydweithio mor ffyddlon. Gadewch i mi weled," ebra hi, gan ddal cwpan D. A.