Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

credu mewn poeni'r Hen Wr yn ddiraid. I'm tyb i, mi roedd gyru'r llythyr yma yn profi diffyg ymddiriedaeth yr Aelodau Cymreig yn y Weinyddiaeth, ac mi rydw i'n dal nad oes dim sail i'r amheuaeth yma. Mae nhw'n siwr o dalu sylw i'n cais ni."

Ydan, os dangoswn ni fod yn rhaid iddyn nhw wneud hyny," eba D. A. Thomas.

"Fel yma bydda i'n edrych ar y peth," ebe Bryn: "Dyma ni wedi cael addewid pendant gan y Blaid Rydd- frydol y ca Dadgysylltiad le blaenllaw ar y rhaglen. O'r goreu. Dyna Mr. Gladstone ei hun, dro ar ol tro, wedi cadarnhau'r addewid mewn rhyw ffordd neu gilydd, ac mi rydan ni'n blentynaidd iawn i wthio a gwasgu am addewid arall o hyd ac o hyd cyn rhoid amser i gyflawni'r cyntaf. Mi rydan ni fel Cymry yn y peth yma yn debyg iawn i ferch yn glaf o gariad, ac yn cwyno os na cheith hi lythyr caru bob yn ail ddiwrnod oddiwrth ei chariad. Dyma ni wedi cael yr addewid yn Newcastle, yn Nghaernarfon, ac yn Nhŷ'r Cyffredin; ac mi rydan eto'n crio am gael un arall, ac yn credu fod y cariad wedi troi ei gefn arnom am na chawn ni lythyr caru arall eto."

"Be wyddoch chi am garu, tybed ?" ebra finau. "Chymach chi ddim llawar am geisio cusan gan eneth chwaethach rhagor."

"Weit a bit, David," ebe Claudia. "Tydw i ddim mor siwr am hyny. Synwn i ddim na ŵyr Mr. Bryn Roberts gymint am ferched ag y gwyddoch chitha, David."

"Tydi o ddim wedi dangos hyny hyd 'rwan fodd bynag," ebra finau.

"Tydi i gydmariaeth o ddim yn dal dwfr," ebra D. A. Thomas dan chwerthin. "Gadewch imi ei rhoid hi'n iawn. Nid geneth ieuanc yn glaf o gariad yw'r Blaid Gymreig,