Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond cariadlanc aiddgar yn awyddus am i'r fun benodi dydd y briodas. Mi gawson addewid y tad yn Newcastle pan ddeydodd y National Liberal Federation y cai Dadgysylltiad fod yn nesaf i Hom Riwl. Purion. Ond er fod yr eneth ei hun wedi deyd ei bod hi'n foddlon dod rywbryd, tydi hi ddim wedi penodi'r diwrnod, ac mi rydan ni i gyd ond Mr. Bryn Roberts am iddi wneud hyny'n ddilol bellach. Dyna pam ryda ni am i Mr. Gladstone, ar ran y Weinyddiaeth, i benodi'r amser y bydd iddo ddod a Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr yng Nghymru gerbron y Senedd."

"Da iawn wir," ebe Claudia. "Be sy gynoch i ddeyd 'rwan, Mr. Roberts?"

Ond mi roedd Bryn yn ei elfen 'rwan. Hen ddadleuwr camp ydi Bryn, ac wrth ddadla bydd o'n enill ei fara chaws. Felly dyma fo'n gwthio'r llestri'n mhellach o'i ffordd o ar y bwrdd ac yn deyd:—

"Hyn sy gini i ddeyd. Tydw i ddim yn credu y dyla ni wasgu ar yr Hen Wr i beni amsar o gwbl. Fo ŵyr ora prun ydi'r amsar gora. Mi faswn i'n teimlo mai'r peth gora fasa iddo fo yru Mesur Hom Riwli fyny i'r Lords y Senedd—dymor nesaf eto, a gyru i fyny wedyn y Registration Bil a'r District Councils Bil, a rhyw fesurau pwysig felly i'r Lords gael u llindagu nhw, ac yna cael cynyg ar Ddadgysylltiad."

"Ai tybad y basa pobl Eifion acw'n foddlon i ryw gynllun felly?" ebe Claudia'n dawel.

"B'asan yn reit siwr gin i," ebe Bryn, ond gan grafu ei glust yn betrusgar hefyd.

"Wel, os felly, mae'n nhw'n wirionach o'r haner na neb arall yn Nghymru !" ebe D. A. Thomas, gan godi ar ei draed. "Tydw i ddim yn credu fod yna etholaeth arall yn