Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nghymru fasa'n foddlon i daflu Dadgysylltiad eto i'r gynffon. Mi gefis i, fel y gwyddoch, fwy o fajoriti yn yr etholiad diweddaf na neb yn y deyrnas—ond leiciwn i ddim mynd yn fy ol i Merthyr eto gan ddeyd wrth yr etholwyr yno am fod yn blant da, ac aros yn dawel hyd nes y gwel Mr. Gladstone yn dda i gofio am danom. Mae politics fel teyrnas nefoedd—treiswyr sydd yn ei chipio hi; ac os na wnawn ni ein rhan fel dynion yn awr, ac os nad ydan ni yn barod i riscio pob peth er mwyn cael Dadgysylltiad—chawn ni mo hono'n dragywydd."

"Ddems mei sentiments tw," ebra finau. Ond mi roedd Bryn wedi blino ar y sgwrs, ac mi ffarweliodd â ni yn y fan. Wedi iddo fynd trodd D. A. Thomas ataf gan ddweyd:

"Mi wnaethoch chi waith reit dda, Mr. Davies, wrth gyhoeddi'r llythyra rheiny. "Toeddan nhw ddim yn llythyrenol gywir, ond mi roedd yr ysbryd gynoch chi'n iawn. Chawsai'r wlad ddim gwybod am danyn nhw oni bai am danoch chi. 'Doedd neb ond y Major a minau dros gyhoeddi'r cwbl."

Wel be fydd nesa?" gofynais.

Wel, dyma rhwystraeth wedi ei ladd, a Mesur Hom Riwl drwy'r Tŷ cyntaf, ac felly dyna amod Mr. Gladstone eisoes wedi ei gyflawni. Rhaid i ninau yn awr wasgu ar ei wynt eto. Mi gawn gyfarfod eto o'r Blaid Gymreig, ac mi yrwn lythyr cryfach nag o'r blaen ato fo, ac os na wrendy o, wel—lwc owt ffor scwôls fydd hi wedyn. Ond mi ofala i edrych dan y bwrdd y tro nesa rhag i chwi fod yno eto," ebe fo gan ysgwyd dwylaw wrth ffarwelio.

"O mi fydda i a nghlust wrth dwll y clo," ebra finau dan chwerthin.

A dyna'r hanes am gyffesiad Bryn Roberts i chwi.