Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XII.

DONIBRWC FFER.

Row yn y Tý—Stop—tap siarad ofer—Herod a Judas—Logan a Carson—Golygfa ryfedd—Ffri ffeit—Dafydd Dafis a John Burns—Dafydd Dafis a'r Swyddog—Urddas Gladstone.

Mi rydw i wedi penderfynu os ca i lonydd gin Claudia y ceith yr etholwyr lonydd gin inau. Os ca i fy ffordd, a i byth yn Aelod Seneddol. Mi rydw i wedi gwneud fy meddwl fy hun i fyny nad a i byth;—ond y drwg ydi nad ydw i eto wedi gwneud meddwl Claudia i fyny,—nac yn debyg o allu gwneud chwaith.

Ond mewn difri 'rwan ar ol yr hyn welis i yn y Tŷ un nos Iau, mae 'nghalon i wedi blino ar y Senedd a'n Seneddwyr. Son am yru plismyn i gadw'r heddwch yn rhyfel y degwm yn Nghymru, wir! Reitiach o lawer fyddai gyru plismyn i gadw'r heddwch yn mhlith yr Aelodau Seneddol!

Mae nhw'n deyd fod yna ryw ffair hynod tua'r Werddon elwir yn Donibrwe Ffêr; ac mai ymladd â'u gilydd, a thynu gwalltau 'u gilydd, a rhwygo dillad 'u gilydd, y bydd y prynwr a'r gwerthwr bob amsar yn y ffair hono. Os felly, mi gefis inau'r fraint o weled Donibrwc Ffêr yn Nhŷ'r Cyffredin un noson.

Peidiwch chitha a meddwl 'rwan mai barddoni fydda i wrth ddeyd y pethau hyn; na, fel mae gwaetha'r modd mi rydw i'n mhell o fod yn ymddiried dim i'm dychymyg yn y peth hwn; yn anffodus mae'r peth fel 'rydw i yn ei ddes-