Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw Vicary Gibbs yn gwaeddi allan fod T. P. O'Connor wedi insyltio Mr. Chamberlain, ac yn galw ar y cadeirydd i'w geryddu. Cynorthwyid ef gan ddau Dori arall, sef Gibson Bowls a Hanbury, ac aeth yn dwrw trwy'r holl le. Mi roedd Gladstone a Harcourt ar y naill law, a Balfour a Randolph ar y llaw arall, wedi mynd allan i fotio, ond dyma lle'r oedd y tri gwirion yma fel ffyliaid yn cicio row. Croesodd Mr. Logan, Rhyddfrydwr, at y bwrdd i ddweyd rhywbeth wrth y cadeirydd, ac mi ddeydodd Mr. Carson, y Gwyddel Toriaidd hwnw fu yn Nghaernarfon yn helpu Syr John Piwlston i golli'r dydd, rywbeth wrtho wnaeth iddo droi ato ac eistedd yn ei ymyl.

Wel, er mwyn i chwi ddallt yn iawn, tydi hi ddim yn ffasiwn yn y Tŷ i Dori eistedd ar feinciau y Rhyddfrydwrs, nac i Ryddfrydwr eistedd ar feinciau'r Toris. Mae'n wir fod Chamberlain a'i gang, er eu bod yn waeth gelynion i Gladstone na'r Toris eu hunain, yn eistedd yn nghanol y Rhyddfrydwyr,—ond tydi Chamberlain ddim fel pawb; myn ef fod yn ddeddf iddo 'i hun.

Mi roedd Logan felly, yn tori ar draws ffasiwn y Tŷ, er fod ei ymddygiad yn dawel a boneddigaidd. Ond yn lle deyd wrtho fo yn foneddigaidd am gadw at ei ochr, dyma ryw Dori y tu ol iddo yn ymaflyd yn ngholer i got o, ac yn ceisio ei wthio ar ei ben. Ond mae Logan yn ddyn cadarn nerthol, ac er i ddau neu dri eraill ddod yn mlaen i gynorthwyo'r cyntaf, mi roedd Logan yn gryfach na'r lot.

Ond gyda hyn, dyma gyfeillion Logan ar y naill law, a'r Toriaid ar y llaw arall yn rhuthro'n mlaen, ac ar winciad llygad dyma hi'n ymladd gwyllt! Mi roedd y dyrnau, a'r traed, a'r gewinedd, ar waith. Gwallt yn cael ei blycio, llygid yn cael eu duo, dillad yn cael eu rhwygo, meinciau yn cael eu dryllio, llwon a rhegfeydd yn esgyn