Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rhaid i chi beidio cadw twrw!"

"Cadw twrw, wir!" ebra fina'n fflamgoch.

"Welwch chi 'nacw?" gan gyfeirio bys at yr anifeiliaid gwylltion yn Ephesus ar lawr y Tŷ.

"Rhaid i chi fod yn dawel neu ddod allan, syr," ebra fo, gan maflyd yn y mraich.

“Dos di, machgian coch i, a gwna i'r ffyliaid acw fod yn dawel neu fynd allan,” meddwn inau. "Ond tydw i ddim yn mynd i dewi tra bo'r cwn acw'n cyfarth. Hiss! Hiss! Hiss—s—s—s—s—s—s!" ebra fi.

A dyma bawb ar y galeri yn joinio, a hissio ddaru ni nes gwneud i'r bobol wirion ar y llawr ein clywed ni, a gyru cwilydd arnyn nhw.

Dyna'r rhan gymerais i yn y fusnes.

Wel am John Burns, mae o'n ddyn rhyfadd; mae ei freichiau can gryfed a'i ben o—a mae hyny yn ddeyd llawar am dano fo. Gan gymyd mantais ar y ffaith fod rhei o'r ymladdwyr wedi cywilyddio wrth y nghlywad i'n gwaeddi " Cwilydd " arni nhw, ac yn eu hisio nhw, dyma fo i fewn i ganol y miri, gan maflyd yn ngholar hwn, ac yn nghynffon y llall, rhoi gwth i un a hergwd i un arall o'r rhai oeddynt yn ymrafaelio, nes cael rhyw lun o drefn ar yr ymladdwyr, a rhoid cyfle i Randolph Churchill, ac un neu ddau eraill oedd a thipyn o synwyr yn eu penau nhw i alw y Toriaid ynfyd i drefn.

Mi roedd Gladstone wedi dod yn i ol erbyn hyn, a dyna lle'r oedd o'n eistedd mor welw a'r angau, a dagrau gofid yn perlio yn i lygid o wrth weled y lle cysegredig yn cael ei anghysegru fel hyn. A dyma rywun—mi glywis wedyn mai Syr Ashmead Bartlett oedd, yntau'n Dori, yn anelu ei fys at Mr. Gladstone, ac yn gwaeddi:

"Dy fai di yw hyn! Dy fai di yw hyn!"