Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chymerodd yr hen ŵr ddim mwy o sylw o hono nag a gymer ci Newfoundland o gyfarthiad corgi; ond mi deimlodd rhai o'r Toriaid goreu gwilydd ar eu clonau wrth weld un ohoni nhw yn gwneud ffwl o hono ei hun, a dyma Syr Albert Rollit ato fo, ac yn rhoid cystal gwers iddo ag a gafodd hogyn ysgol erioed gan ei feistar. Chware teg i Syr Albert, er mai Tori ydi o, mae o'n ŵr bynheddig, ac ni fydd y llall yn debyg o anghofio'r lesn gafodd tra bydd o byw. Mi swatiodd fel ci wedi ei chwipio.

Ac erbyn hyn dyma'r Llefarydd yn ei ol i'r Tŷ.

Mi rw'i'n cofio pan oeddwn i'n yr ysgol, pan fasa meistar allan y byddan ni'r plant yn cicio row ddychrynllyd, ond pan ddoi meistar yn i ol, mi roedd pawb ohonom yn rhedeg am y cynta i'w le priodol. Rhywbeth felly oedd hi yma pan ddaeth Mr. Peel i fewn. Tawelodd pawb. A dyna lle'r oedd y Toriaid oeddynt chydig fynudau'n ol fel cwn cynddeiriog, yn awr yn crynu fel plant rhag ofn y wialen. Daeth y cwbl i drefn cyn pen dau fynud, ac mewn ychydig eiriau urddasol rhoddodd y Llefarydd derfyn ar y cythrwfl.

Mae'n resyn meddwl mai i bobl ddylasent fod yn gwybod yn well, ac i bobl sy'n arfer cyfri eu hunain yn fyddigions, y rhaid diolch am yr olygfa warthus yma; i Chamberlain am gyneu'r tân ar y dechreu, ac i Hayes Fisher am i brocio fo'n fflam. Tori ydi Hayes Fisher, hen ysgrifenydd i Mr. Balfour, a fo medda nhw oedd y dyn maflodd yn ngholar Mr. Logan i'w wthio oddiar fainc y Toriaid.

Ie! y bobl sy'n arfer bostio yn eu dysg, a'u boneddigrwydd, a'u moes, ac a fynant ini gredu mai gyda hwy yn unig y trig doethineb—ie, dyma'r bobl ddaru'r noson hono ddarostwng cymeriad Senedd Prydain Fawr, a dianrhydeddu coffadwriaeth cewri gwladweiniol yr oesau fu. Yr un dosbarth ydynt ag a hisiasant Mr. Gladstone yn