Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhresenoldeb Tywysog Cymru wrth agor yr Impirial Institiwt er's tro'n ol. Dyma'r rhai sydd yn cyfrif eu hunain yn fyddigions, ond yn ymddwyn yn waeth na'r blagards penaf ar yr ystrydoedd !

Mi fydd digwyddiadau fel hwn 'rwan yn help i rei o'r hen deuluoedd pendefigol yn ein gwlad i sylweddoli'r ffaith fod rhywbeth mwy na chyfoeth, na bôn, na gwaed, yn angenrheidiol i gyfansoddi gwir foneddigeiddrwydd. Mi roedd rhei o'r bobl gymerasent ran yn yr olygfa warthus hon yn meddu'r holl bethau uchod, ond fasa neb mor ynfyd a deyd eu bod yn fyddigions tan yr amgylchiadau.

Ni fu golygfa fel hon erioed o'r blaen yn Nhŷ'r Cyffredin. Ers mwy na dau can mlynedd yn ol tynodd un o'r aelodau—un o hynafiaid Arglwydd Hartington, y Duc Defonshyr—ei gleddyf allan at un arall o'r aelodau, ond ataliwyd ef rhag gwneud niwed iddo. Pe bae'r ffasiwn 'rwan i wisgo cleddyfau, buasai llawer o waed wedi ei dywallt ac aml i einioes wedi ei golli ar lawr Tŷ'r Cyffredin y nos Iau hwnw—a hyny gan y bobl sydd yn dweyd nad ydi'r Gwyddelod yn ffit i gael llywodraethu eu hunain !

Yn mhen pedair blynedd wedi hyn cymerodd golygfa tra chyffelyb le yn Senedd Awstria. "Toeddwn i ddim yno ar y pryd chwaith, ond yn ol 'rhyn glywis i mi roedd cyn waethed yn Vienna yn 1897 ag oedd yn Llundain yn 1893—ac yn waeth o gymint ag y bu raid galw'r plismyn fewn i droi'r Aelodau allan. Fuodd hi ddim llawn cynddrwg a hyny yn ein Hows of Comons ni—ond 'chydig sy o'r rhei gymerodd ran yn yr olygfa hono nad ydynt yn gwrido heiddyw wrth gofio am dani.