PENNOD XIII.
CYFARFOD DIRGEL ARALL
Pwysigrwydd Dafydd Dafis—Cwrdd Eglwys ar ei achos—Ceisio cau i geg o—Mr. Rathbone fel Tomos yr Anghredadyn—Sail ffydd Bryn Roberts—Y Major yn amddiffyn hawliau'r Wasg—Llythyr Mr. Gladstone—Cenadwri Stiwart Rendel—P'ch Pebyll, O Israel!—Y chapel sites eto.
Cefais yn ystod y dyddiau rheiny y fraint o brofi yn fy mherson fy hun gywirdeb dysgeidiaeth yr Ysgrythyr. Chwi wyddoch fod yr Hen Lyfr yn ein dysgu mai y neb a ddarostyngo ei hun a ddyrchefir, a bod y dyn gwylaidd a eistedd yn y lle isaf wrth y bwrdd yn debycach o gael derbyn parch aml dro na'r neb wthia ei hun i'r ffrynt. Wel, tydw i, fel y gwyddoch, ddim erioed wedi arfer gwthio fy hun yn mlaen felly. Yn wir, ran hyny, bydd Claudia'n cwyno yn aml mod i'n rhy wylaidd.
"It ont dw, David," medde hi. “Rhaid i chi ofalu am Nymbar Won, neu mi gollwch y dydd. Nid yn ol eich gwir werth y bydd y byd yn eich prisio, ond yn ol y gwerth fyddwch chi'n roid arnoch y'ch hun."
"Thal hi ddim, wir, Claudia," ebra fina. "Fedra i yn y myw ddygymod a'r bobol rheiny fydd bob amser yn stwffio'u hunain i bob sedd uchel a phob lle o anrhydedd. Mi fydd pobol felly yn troi ar fy stymog i, ac mi dybia i y bydda inau'n troi ar stymog dynion erill os bydda i'n efelychu'r bobol yma."
Ond son roeddwn i am y dyrchafiad anysgwyliadwy