Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd wedi dyfod i'm rhan. "Toedd dim ond 'chydig wsnosa ers pan droediais i gynta lobis Tŷ'r Cyffredin yma, ac mi fydda i hyd yn nod 'rwan yn i theimlo hi'n anrhydedd nid bychan i gael mynd hefo'r naill neu'r llall o'r aelodau 'ma i gael cypaned o dê, neu dipyn o lynsh yn y Tŷ. Tydw i erioed wedi gwthio fy hun yn mlaen, nac wedi ceisio sefyll yn ffordd neb. Er mai chwilio am le i fod yn Aelod Seneddol 'roeddwn i, 'toeddwn i ddim wedi ceisio gwthio'r un aelod allan er mwyn i mi gael mynd i fiawn, nac wedi ceisio, ran hyny, gwthio fy hun i sedd wâg os byddai yno ryw un arall a gwell hawl na mi i'w llenwi. Ond drwy'r cwbwl i gyd, mi roedd dynion yn mynu rhoid imi anrhydedd na ddisgwyliais am dano erioed.

Be ddyliech chi rwan am yr aelodau Cymreig yn galw Cwarfod Eglwys yn arbenig i roid stop ar y llythyra yma oeddwn i'n sgwenu i'r Genedl? Ac eto, os yda ni i gredu'r Times, dyna neuthon nhw. Mae'n ymddangos fod rhai o'r Aelodau 'ma wedi digio'n enbyd, ac yn ffromi'n aruthr am y mod i'n dadguddio cyfrinach 'u cwarfodydd dirgel nhw yn y Senedd, ac mi ddaru iddyn nhw alw cwarfod arbenig i gael rhoid stop ar y gwaith. Mi roedd y Times yn deyd mai amcan y cwarfod oedd mabwysiadu mesura i roid atalfa effeithiol ar waith rhai o'r papyra yn cyhoeddi cyfrinach y cwarfodydd dirgel. Wrth gwrs mi roedd pawb yn gwybod mai ata i roedd y cynyg yn cyfeirio. Ond y peth doniola 'nglŷn â'r peth oedd fod y Western Mail, os gwelwch yn dda, o holl bapurau'r wlad, yn cymeryd arno mai ceisio roeddid i rwystro'r Aelodau i ddeyd dim wrtho fo! Fel pe tae rhywun yn credu beth ddywed y Mail! Os coeliwch chi rei o'r Aelodau yma—'toes dim ond un rhan o'r Mail yn debyg i 'Sgrythyr; ac i'r Apocrypha y cyffelybir y rhan hono!