ymfalchia yn y ffaith ddarfod iddo dan y cyfryw amgylchiadau, lwyddo i roddi portreadau mor gywir o'r hyn a gymerai le o'r tu ol i'r lleni fel y tybiai hyd yn nod y chwareuwyr mai rhai o'u cwmni hwy eu hunain a wnaethai eu brad!
Wrth barotoi yr ysgrifau hyny i ymddangos yn eu ffurf bresenol ceisiais adael allan bob peth a ymddangosai imi fel wedi colli ei ddyddordeb i'r cyhoedd. Yr amcan oedd cyflwyno'r Adgofion yn awr fel pe yr ysgrifenasid hwynt yn 1898, ac nid yn 1893—95. Ceisiwyd gwneud i'r Adgofion adrodd eu stori eu hun am un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes dadblygiad gwleidyddiaeth a chenedlaetholdeb Cymru. A lwyddwyd i wneud hyny barned y darllenydd.
Fel cynorthwy pwysig at gadw i fyny ddyddordeb y cyhoedd, anturiais ddwyn newydd—beth i fewn i lenyddiaeth Gymreig—sef y Cartoons sy'n addurno'r gyfrol bresenol. Gan nad pa cyhyd y pery dyddordeb y cyhoedd yn "Dafydd Dafis" fel cynyrch llenyddol, teimla'r awdwr yn falch i feddwl ei fod wedi llwyddo i ddangos i'r byd fod Cymru yn gallu cynyrchu talent arlunyddol o'r radd flaenaf, bod i'r dalent hono faes cyfreithlawn yn llenyddiaeth gartrefol y genedl, ac y medr Cyhoeddwyr Cymru wneud cyfiawnder â chynyrch Celf Cymru. O'r saith arlunydd y ceir eu gwaith yn y gyfrol hon, mae chwech yn dal cysylltiad agos â Chymru, a phump yn Gymry yn mron mor Gymreig a Dafydd Dafis ei hun! Yn y cysylltiad hwn gweddus cydnabod caredigrwydd Mr. Marchant Williams yn caniatau adgynyrchu rhai o ddarluniau Will Morgan o'r "Welsh Members of Parliament;" a'r Meistri Bradbury, Agnew a'u Cyf., Perchenogion "Punch," am gyffelyb ganiatad caredig i adgyhoeddi rhai o'u Gwawd Ddarluniau hwy—caniatad a werthfawrogir yn fwy am na roddwyd ef o'r blaen erioed i unrhyw waith Cymreig, ac hyd wyf yn wybod i ond yn unig un cyhoeddwr Seisnig erioed. Gweddus cydnabod rhwymedigaeth bersonol i'r Cartoonist galluog, Mr. E. T. Reed, am y cymorth gwerthfawr a roddodd efe yn y mater, ac am rai darluniau gwreiddiol o'i eiddo nad ymddangosasant o'r blaen.