Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yr hyn oedd yn rhyfadd imi oedd fod rhai o'r Aelodau—nad oeddwn y pryd hwnw wedi cael y fraint o gael fy introdiwsio iddyn nhw, ac mi roedd rhyw ddau neu dri felly—yn cymyd arnyn nhw nad oes yr un Dafydd Dafis yn bod.

"Dafydd Dafis," ebe Mr. Rathbone yn y cwarfod dan sylw, "is a piwar mith. Dder is no sytsh pyrsyn. Ddi articls ofer his nêm ar widdowt dowt ritn bei an onorabl membar hiar presant," ac mi drychodd ar draws y bwrdd at Mr. Lloyd George.

"Os ydach chi'n cyfeirio ata i, Mr. Rathbone," ebra Lloyd George, "mi rydw i wedi deyd wrthach chi o'r blaen mai nid fi ydi Dafydd Dafis, ac nad oes dim a wnelwyf â'r hyn ymddengys yn ei erthygla fo. Ac mi ddeyda i chi fwy na hyny," ebra fo a'i lygid yn fflachio fel pe bai o'n siarad am esgob neu giwrad, "mi ddeyda i chi————

Ond fe maflodd Tom Ellis yn i fraich o, gan sisial rhywbeth yn i glust o, ac ar yr un pryd dyma rhyw un yn gofyn:

"A beth am Claudia, ynte, Mr. Rathbone, ai myth ydi hitha hefyd?"

"Ies," ebra fo, "shi is a piwarli imajinari crieshon, creadigaeth dychymyg ydi hitha hefyd."

Ar hyn dyma Bryn Roberts yn codi ochenaid o waelod i frest, ac yn deyd:

"Nid creadigaeth dychymyg ydi ei thafod hi pa fodd bynag,——"

A dyma hi'n chwerthin mawr dros yr holl le.

"Wel," ebe Stiwart Rendel, "nid wyf hyd yma wedi cael y pleser o adnabod Mr. na Mrs. Dafydd Dafis yn bersonol, ond mi rydw i'n dallt eu bod nhw'n llenwi cylch cyfrifol,