Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn barchus iawn yn mhlith y cyfeillion Methodistaidd ; ac wrth ystyried gynifer o'r gweinidogion Methodist fyddwch chi Mr. Rathbone yn eu hadnabod, mae'n syn genyf na fasech wedi cwarfod â Mr. Dafis cyn hyn."

"Na, ddeuthym i ddim i gyfarfyddiad â fo na'i wraig chwaith——

"Diolchwch i'r nefoedd am hyny ynte," ebra Bryn Roberts yn nghanol chwerthin pawb.

"Ond mi fydda i," ebe Rathbone, heb sylwi ar y joc, "mi fydda i'n cael erthygla Dafydd Dafis wedi'u cyfiethu, a'u hysgrifenu yn Sasnag imi bob wsnos, ac mi rydw i'n gwelad eu bod nhw'n cynwys petha na fedar neb ond yr Aelodau sydd yma'n bresenol eu gwybod nhw. Ac mi hoffwn i basio penderfyniad yn ein rhwymo ni bawb i beidio deyd yr un gair wrth un enaid byw o'r hyn gymer le yn ein cyfarfodydd; ac yn mhellach, y'n bod ni'n ysgrifenu at Olygydd y Genedl yn deyd wrtho fo'n bendant am beidio cyhoeddi dim mwy o lythyra Dafydd Dafis."

Tydi hynyna ddim iws yn y byd," ebra Bryn Roberts. "Pe tae ni'n pasio penderfyniad fel hwnyna 'rwan, mi fasa Mrs. Dafis yn cael gafael yn y naill neu'r llall o hono'n ni uwch ben cypaned o dê, ac mi ffeia i chi y tyna hi'r hanas allan i gyd cyn gorffan."

"A wetyn pwy sy'n gwpod nac yw Dafydd i hunan yma o dan y ford neu lan i'r shimla," mynte Mabon.

"Mr. Cadeirydd," ebe Major Jones, gan godi ar ei draed, ac yn sefyll mewn "grêsffwl atitiwd," fel y deydai Claudia, a'i law aswy yn gwneud bow at y gadair a phawb arall. "Mr. Cadeirydd, ry ni'n wasto amser i sharad fel hyn. 'Rwy i'n cyd-ddwyn a Mr. Rathbone, yr hwn, fel y gwyddom ni, sydd wedi bod yn dipyn bach yn anlwcus yn