Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Tŷ yn ddiweddar. Ond mae'n rhaid ini wynebu petha fel y ma nhw, ac nid fel y licsen ni iddyn nhw fod. Nonsens yw son am stopo Dafydd Dafis i ysgrifenu, a nonsens gwath na hyny yw dishgwl i Olygydd y Genedl i beidio gweyd y gwir am dano ni yn y Senedd yma. Rw i'n nabod Golygydd y Genedl er's chwech neu saith mlynedd, ac yn nabod Dafydd Dafis oddar pan own i'n grwtyn yn Nhregaron, pen ymladdes i'r fatl hyny a mab y polisman. Ac rwy i'n siwr mai mwy na alle Mr. Lloyd George na Mr. Rathbone na neb arall wneud fyse i stopo fe i ysgrifenu, neu stopo'r Golygydd gyhoeddi yn y Genedl yr hyn farne fe ddylse'r wlad gael gwbod. Yn hytrach na mynd i ffysto'n pena yn erbyn y wal fel yna, gwell fydd ini ofalu bob un ohonom ni i wneud ein dyledswydd tuagat ein hetholwyr. 'R'ym ni wedi cael ein hala yma i roi Hom Riwl i'r Werddon, ac i fynu cael Dadgysylltiad i Gymru, ac i ymladd brwydrau'n gwlad. I hyn, syr, debyga i, yr ydym ni yma. Tra bo ni'n gneud ein gwaith yn reit, yn foto'n streit, ac yn ffyddlon i'n gilydd, does dim eisieu ini hidio dim os bydd Dafydd Dafis yn adrodd ein hanes ni wrth bawb drwy'r Genedl. Dw i ddim am rifflecto ar neb sydd yma, ond rwy'n cofio geiria'r bardd:

"Conscience makes cowards of us all,"

a thra bo ni'n ymddwyn yn iawn wneith Dafydd Dafis na'r Genedl chwaith ddim cam a ni, a fydd dim eisieu i ni ofni i'r byd wybod beth ydym yn wneud. Rwy i'n cynyg syr, ein bod ni'n mynd yn mlaen at y gwaith nesaf ar y program."

Derbyniwyd yr araeth fach yma gyda chymeradwyaeth, ac awd yn mlaen i ddarllen llythyr Mr. Gladstone mewn atebiad i gais yr aelodau Cymraeg.

Wedi i'r Cadeirydd edrych o gwmpas, ac i Mabon sbio