Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/144

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dan y ford rhag y mod i'n ymguddio yno, fe ddarllenwyd y llythyr. Ond un peth oedd darllen y llythyr-peth arall oedd i sbonio fo, canys mi roedd hwn, fel llythyrau eraill o eddo'r hen gena, yn un y gellid ei esbonio mewn mwy nag un ffordd. Wedi tynu'r amwisg fawr o frawddegaeth oddiam dano, mi roedd y llythyr yn syml, rhywbeth tebyg i hyn:

Cydnabyddai bwysigrwydd cwestiwn y Dadgysylltiad yn Nghymru, fel yn Scotland. Canmolai'r etholwyr Cymreig am roddi prawf mor bendant yn yr etholiad diweddaf o'u hawydd am Ddadgysylltiad, a'u hymlyniad ffyddlon wrth y Blaid Ryddfrydol. Am dano ef ei hun, yr oedd eisoes wedi pasio oedran rhagderfynedig einioes dyn, ac nis gallai ac nid doeth fyddai pe gallai-gymeryd ar ei ysgwyddau ei hun unrhyw orchwyl newydd. Yr oedd wedi ymgyflwyno i'r gwaith o weled mesur o Hôm Riwl ar ddeddflyfrau'r wlad, ac hyd nes y sicrheid hyny nid doeth fyddai iddo ymgymeryd a chyfrifoldeb newydd. Hyderai weled diwygiadau lawer yn cymeryd lle pan wthid Hôm Riwl o'r ffordd; yr oedd cwestiynau pwysig fel eiddo cofrestriad, District Cownsuls Bil, Cyfrifoldeb Meistri, Mesur Diwygiad i Lundain, ac ereill, yn cydgystadlu a hawliau Cymru ac Ysgotland, ac anhawdd, os nad yn wir amhosibl, oedd gallu treiddio i'r dyfodol, a dweyd pa bryd y gosodid y naill neu'r llall o'r rhai hyn ar ddeddflyfrau Prydain. Yr oedd y pethau hyn i gyd yn cael sylw manylaf y Weinyddiaeth a gallai eu sicrhau y caent sylw pellach cyn y gwelid Senedd-dymhor arall. Yr oedd mesurau cyflawn i rai o honynt eisoes wedi eu dwyn ger bron, a gallai ddweyd yn gyfrinachol fod eraill yn cael eu drafftio. Hyderai y cai gymhorth yr Aelodau Cymreig i gario'r gwaith da yn mlaen; drwy ffyddlondeb pawb yn