Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig y gellid gobeithio dwyn barn i fuddugoliaeth ar y naill a'r llall o'r mesurau pwysig hyn;—a theimlai fod yr Aelodau Cymreig mor awyddus ag a oedd ef ei hun i'w gweled un ac oll yn cael eu pasio. Yr oedd anhawsderau'r Llywodraeth yn ei orfodi ef i osod treth drom ar ffyddlondeb ac amynedd pob adran o'r Blaid, a theimlai yn hyderus y gallai ymddibynu ar ffyddlondeb Galant Litl Wêls,—ac yn sicr, ebe fe, ni chyll hithau ei gwobr.

Dyna gynwys y llythyr. Pa un a oedd yn addaw Dadgysylltiad y flwyddyn nesaf, ai nid oedd, methai'r cyfarfod benderfynu. Yr oedd, fel y dywedodd Mr. Stiwart Rendel, un peth yn dra amlwg—nid oedd y llythyr yn dweyd na cheid Dadgysylltiad. Caent bwyso'r cwbwl yn y cyfarfod nesaf. Yn y cyfamser, yr oedd pawb i gadw'r peth yn gloedig yn ei fynwes ei hun, ac nid oedd neb i fynegu'r gyfrinach wrth Dafydd Dafis, na Claudia, na neb arall.

Ond, fel y deydodd Bryn Roberts, buasai mor rhwydd rhwystro'r haul godi ag a fuasai rhwystro Dafydd Dafis i gael o hyd i'r hanes, ac ar ol ei gael ei gyhoeddi.

Awgrymwyd hefyd y gallai Mr. Stiwart Rendal gael scwrs pellach a'r Hen Wr, er mwyn cael esboniad awdurdodedig y 'boneddwr hwnw ei hun ar rai o frawddegau amheus y llythyr, a chael ganddo fo o leiaf i roid addewid pendant na chaffai'r un "contenshys meshyr," neu fesur buasai llawer o ddadleu yn ei gylch o, gael ei roid o flaen Mesur Dadgysylltiad yn y Senedd—dymhor canlynol;—ac os ceid addewid felly y tebyg oedd y darfyddai y row bresenol—fel llawer row Gymreig o'i blaen—mewn mwg.

Y gwir am dani, mi roedd yn amlwg ddigon y pryd hwnw, y rhaid cael ychwaneg o adgyfnerthiad i'r Iyng Wêls Parti yn y Tŷ cyn y telid sylw dyladwy i'n cais. "Toeddwn i ddim yn hollol siwr na fyddai raid i ni godi baner goch