Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthryfel yn Nghymru yn yr etholiad nesaf. Mi roedd yn amlwg fod rhai o'r hen aeloda na naen nhw ddim os na fyddai yr etholwyr yn eu gorfodi nhw. Fy nghyngor i'r Iyng Wêls Parti yn Nghymru y pryd hwnw, fel y sgwenis i ar y pryd i'r Genedl, oedd:

Chwiliwch am ymgeiswyr cymhwys erbyn yr etholiad nesaf. Synwn i ddim na fydd raid i chi ymladd rai o'r hen Aelodau, ac y mae'n sicr y bydd rhai o'r Aelodau presenol yn riteirio. Am hyny byddwch barod."

Pan fydda i 'rwan yn 1898 yn edrych yn ol ar yr hyn sgwenis i i'r Genedl yn 1893, mi fydda i'n gwelad mai geiriau gwirionedd a sobrwydd oeddan nhw. Mi roeddwn i'r pryd hwnw megys yn gwelad y peryg yn rhyw ymrithio mewn ffurf aneffiniol o flaen llygid fy meddwl. Mi roedd rhwbath yn deyd wrtha i'r amser hwnw y basa raid i Gymru ddeffro, a gweithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan, ac na wnai hi byth mo hyny tan y ceisiai hi am rai o'i phlant ei hun, rhai wedi eu temtio yn mhob dim yr un ffunud a hithau, i'w chynrychioli yn y Senedd, a than y dysgai hi y plant rheiny i fod yn blant da, i gydweithredu yn gyfeillgar â'u gilydd yn lle ymladd ac ymgiprys fel cwn am yr un asgwrn.

Oni bai am ystyriaethau o'r fath yna, mi faswn i, er digio Claudia a phob dim, y pryd hwnw yn rhoid heibio am byth bob meddwl am fynd i'r Senedd. Swydd digon calad a digon diddiolch ydi bod yn M.P.—hyny yw os bydd dyn yn gwneud ei ddyledswydd. Nid rhyw segur swydd fel y dyddiau gynt ydi hi bellach. Mae rhyw Dafydd Dafis neu ryw Claudia a'u llygid ar ol pob un o'r Aelodau dros Gymru o hyd, a rhaid i'r Aelod druan nid yn unig fotio'n streit ac yn gyson yn y Tŷ, ond rhaid iddo fo hefyd beidio esgeuluso cydgynulliad y Welsh Parti, a gofalu