Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynychu'r moddion os byddai cyfarfod Radicalaidd neu Ymneillduwyr ar droed.

Mai nid yn ddiachos yr ofnwn am y dyfodol sydd wedi cael ei brofi erbyn hyn. A i ddim 'rwan i geisio esbonio'r hyn gymodd le yn Etholiad fawr ac alaethus 1895—mi ddaw hyny yn ei dro. Fel gŵyr y byd erbyn hyn, fasa'r etholiad hwnw ddim wedi profi'r fath alanas yn Nghymru ag y buodd hi petawn i a'm traed yn rhydd o'r cyffion y pryd hwnw ; ond nid dyma'r lle imi ddeyd ble 'roeddwn i'r adeg hono—cewch hyny yn y man. Ac nid cyfeirio ydw i'n gyfangwbl at y seddau a gollid i Gymru yn yr etholiad hwnw, gorchfygiad y Mejor yn Llanelli a Chaerfyrddin, dymchweliad Frank Edwards yn Maesyfed, cystwyfa Arthur J. Williams yn Ne Morganwg, deffroad Egerton Allen o'i freuddwyd hapus yn Mwrdeisdrefi Penfro, llongddrylliad Syr Edward Reed yn Nghaerdydd, a'r "sac" gafodd Burnie yn Abertawe. Nid y pethau hyn oedd gymint gen i yn fy meddwl, er mai digon blin ydi meddwl am danynt, ac mai i'r un achos yn ymarferol y rhaid priodoli y gorchfygiadau hyn, sef anmharodrwydd neu anmherffeithrwydd trefniadau Cymru i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan.

Ond meddwl oeddwn i am lenwi seddi sicr a dynion sy'n gwybod bedi gwir angen a gwir deimlad Cymru. Mae William Jones yn iawn yn Arfon, a Brynmor Jones yn gamp yn Nosbarth Abertawe, a Vaughan Davies yn burion yn Ngheredigion. Ond lled ama ydw i am ddynion fel Charles Morley yn Brycheiniog, a Reginald M'Kenna yn Ngogledd Mynwy. Dichon y gallan nhw fod yn ddynion purion yn eu lle, ond rwy'n ama ai Cymru yw eu lle. Dyna M'Kenna er enghraifft. Sbiwch 'rwan ar yr hyn mae Mr. Reed wedi wneud o hono fo yn y darluniau mae o