Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/148

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi dynu i'r gyfrol hon o f'adgofion! Mi welwch i fod o'n desgrifio Mr. M'Kenna, nid fel Aelod Cymreig, ond fel math o was bach i Syr Charles Dilke. Syr Charles Dilke, ebra fo, ydi Robinson Crusoe, a M'Kenna ydi'r Gwas Friday sy'n ol a chyrchu pob peth i'w feistar, a dacw fo'n trampio ar ol ei feistar yn llawen, ac yn mwmial canu:—

"Dilyn Massa wnaf trwy ffydd,
Gweini ar Massa nos a dydd,
Dyma'r gwaith i'm bleser rydd
Fel Cynrychiolydd Gwalia!

Croeso iddo ganlyn Syr Charles neu Syr Oliver ar hyd ei oes, o'm rhan i,—ond nid "fel Cynrychiolydd Gwalia!" Oh na! fel cynrychiolydd Gwalia gwasanaethed Cymru'n nghyntaf, a Syr Charles, os myn o, yn ail, ynte?

Ond i ddod 'nol eto at fy stori, bu'r Aelodau Cymraeg am oriau y dydd Iau hwnw yn Mhwyllgor yr Aelodau Anghydffurfiol yn mesur a phwyso gwellianta'r Arglwyddi i'r Chapel Sites Bill, ac ysgrifenwyd uwchben y gwellianta rheiny,

"Mene, mene, tecel upharsin."

Mi wnaeth yr Aelodau Cymraeg waith ffyrst clas yno. Mi siaradodd Herbert Lewis yn ddoniol; adroddodd Osborne Morgan ei "brofiad" am y Mesur Claddu mor ddwys a difrifol a phe basa fo yn seiat yr Hen Gorff; ac mi ddaeth Bryn Roberts allan am dro o blaid y gwir fel llew rhuadwy. "Toeddwn i eriod wedi meddwl fod cymint o ffeit yn Bryn tan i mi ei glywad o yn y cwarfod hwnw. Mi basiwyd i wrthwynebu'r gwellianta hyd at waed os bydda raid, a mi wnaeth yr Aelodau Cymraeg eu hunain yn arweinwyr ac yn asgwrn cefn y Nonconfformist Parti yn y Senedd. Hai lwc i chwi, 'mechgyn i!