Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIV.

YN Y 'STEDDFOD.

Eisio Teitl—Ble i'w gael o—Sut i gael teitl mewn 'Steddfod─Mynd i Bontypridd—Gael fy ngodro yno—Cymdeithas yr Iaith Gymraeg-Llyfr yr Orgraff—Cymdeithas Addysg Merched—Yr Orsedd—Ogof Macpelah'r Beirdd—Adres Dafydd Dafis.

"David," ebe Claudia, y nos Wener hwnw, wedi imi fynd adre o gwarfod yr aelodau Cymraeg, "rhaid i chi gael teitl."

"Be gebyst sy'n mhen Claudia 'rwan?" meddwn ina yn fy meddwl f' hun fel tase. A mi ddechreuais droi'r peth trosodd a throsodd yn fy meddwl nes imi bron cael y crydcymala yn fy mhen wrth fforsio gormod arno.

"Teitl," ebra fi o'r diwedd. "Tydi Gladstone ddim yn rhoid teitla i neb os na fyddan nhw wedi gneud rhyw wasanaeth mawr iddo fo a'i blaid, neu i bod nhw'n enwog am rwbath arall."

"Twt," medda Claudia, gan gochi i'w dwy glust, "nid oes eisieu teitl fel ena arnoch chi. Teitl o fath arall oeddwn i'n feddwl, un neith y'ch nodi chi allan yn mhlith pobol ddysgedig yr oes."

Wel, mi roedd hyn yn gneud petha'n waeth fyth. Mi wyddwn trwy hanes mai mater digon rhwydd oedd cael teitl i bregethwr o Merica, er fod gwahaniaeth rhwng seren a seren mewn gogoniant yno hefyd. Ond mi roedd meddwl am roid D.D. ar ol fy enw, a chael visiting cards fel yma:

Dafydd Dafis, D.D.,
Pyrveior of milc.

yn rhy wrthun. Felly mi chwarddais allan.