Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyn dyma droed Claudia'n dechra curo'r hen ffwtstwl, ac ebra hi'n reit sosi:

"Dont bi a ffwl, David! I hop mei syjestshyn disyrfs symthing betar ddan tw be lafft at."

"Claudia bach," ebra fina, "be ddeydith y gweinidog acw os bydd y blaenor yn gwisgo D.D. o'i flaen o?"

Ar hyn dyma Claudia'n chwerthin, ac yn deyd:

"Wel mi rwyt ti'n wirion, Dafydd bach! D.D. yn wir! O'r anwyl!" a dyma hi'n ail chwerthin a mina'n fy nhro yn sbio'n wirion arni hithau. Wedi iddi ddod ati 'i hun, ebe hi:

"Teitl Steddfod oeddwn i'n feddwl, ac nid teitl diwinyddol! Mi rwyt ti'n rhy dda o'r haner i gael dy droi yn Ddoctor of Difiniti hefyd."

"Teitl Steddfod?" gofynis. "Tydw i ddim yn gerddor nac yn fardd nac yn llenor—neu o'r hyn lleiaf 'toeddwn i ddim nes imi ddechreu sgwenu fy Adgofion."

"Na hitiwch am hyny," ebe Claudia, "chwi gewch deitl heb hyny. Rhowch chi sybscripshyn i'r National Eisteddfod Association, ac un arall i'r Cymmrodorion, a thipyn go lew i Gymdeithas yr Orsedd, ac mi gewch eich urddo yn y Steddfod heb ddim trafferth arholiad na chyfansoddiad o fath yn y byd!"

Wel wrth gwrs mi roedd hyn yn newydd imi. Mi roeddwn i wedi arfer meddwl mai nod talent ac nid rhywbeth i'w brynu oedd teitl Steddfod—ac mi ddeydis i hyny wrth Claudia, gan ychwanegu gyda llaw na chymwn i byth deitl hyd nes medrwn i i enill o'n deg trwy dalent.

"Am dalent," atebodd hitha, "mae gynoch chi Dafydd gymint arall o dalent a haner y rhai sy'n galw'u hunain yn feirdd brain a defaid—"