Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nage! nage! Beirdd wrth fraint a defawd!" meddwn ina'n wyllt.

"Wel, hyn oedd gin i," ebe hithau'n mhellach, heb sylwi ar y cywiriad. "Mi rydw i wedi cael ar ddeall fod y rhai sy'n meddwl rhywbath am fynd yn Aelodau Seneddol yn tori ffigiwr tua'r Steddfod, ac mi rydw i am i chitha Dafydd gael pob mantais felly."

"Rhoswch chi dipyn bach, Claudia," meddwn ina. "Os ydw i'n y'ch dallt chi'n iawn mi rydach am i mi fynd i'r Steddfod, a rhoid tipyn o arian go lew i'r Steddfod a'r Cymdeithasau'n nglyn â hi, a chymid arna i mod i'n Eisteddfodwr mawr eriod, eriod, a pheth felly aie ?"

"Ie. Dyna fo'n union," ebra hitha, gan anghofio'r gwnio yn y scwrs.

"Wel, na i ddim, Claudia. Os ydw i i fynd i fewn i'r Senedd, mi a i yno fel dyn gonast, ac nid fel un yn cymyd arno fo fod yn rhywbath nad ydi o. Mae gin i ormod o barch i'r Steddfod i geisio'i marchogaeth hi fel ceffyl benthyg i'm cario i ar y ffordd i'r Parlament."

"Wel wir, rhyw un gwirion ydach chi, Dafydd, hefyd," ebra Claudia, dan wenu. Dyma chi'n Gymro, yn caru eich gwlad, a'ch iaith, a'ch cenedl, ac wedi sybscreibio i'r Cymmrodorion a Chymdeithas yr Eisteddfod cyn erioed feddwl am fynd i'r Senedd, ac yn awr, gan eich bod yn chwilio am sedd, yr ydach am beidio dangos y'ch bod chi'n Gymro! Rhag cywilydd i chi, Dafydd! Ond mi rydw i am fynd i'r Steddfod i Pontypridd, a rhaid i chitha ddod hefo mi."

Pan fydd Claudia'n deyd "rhaid" yn y dull yna, mae'n gofyn mwy o bres mewn gwyneb nag sy gin i yn y mhocad i ddeyd "na" wrthi, ac felly mi gefis fy hun gyda hi yn