Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mhontypridd, yn nghanol y coliars a'u mwg, a'u llwch du, a'u clonau cynes, drwy'r wsnos ganlynol.

Ond mi wrthodis i yn bendant gymyd teitl, er i Claudia neud ei gora glas hefyd. Mi ddaeth a Vinsent Evans ar y nghefn i, ac ar i ol o Eifionydd, a Thwm Gwynedd, a haid o feirdd, a phawb o honyn nhw'n wyllt am i mi gymyd teitl.

"Dyna'r unig beth sy eisio i'ch gneud chi yn adnabyddus a pharchedig drwy'r holl wlad, Mr. Dafis," ebra un.

"Mi osodwch anrhydedd a bri ar yr Esiteddfod wrth ddod i fewn i gylch cyfrin yr Orsedd," ebe'r llall.

"'Toes neb yn wir fawr yn yr oes oleuedig hon os na fydd ganddo urdd orseddol gydnabyddedig," ebe'r trydydd. Mynai un brawd cywrain ladd dau aderyn ag un gareg fel tasa drwy wneud fy nheitl Gorseddol i yn deitl Prif Golegawl hefyd.

"Welwch chi," ebra fo, "nid llawer sy'n medru ysgrifenu Ll. D. ar ol eu henwau, ond os cymerwch chi eich urddo yma heddyw mi fydd gynochi berffaith hawl yn ol braint a defawd i wneud."

"Sut hyny?" gofynis, gan na 'toeddwn i ddim yn gwelad ar unwaith beth oedd gin y brawd.

"Fel yma," ebra fo. "Mi'ch gwnawn chi yn Fardd Ofydd, dan yr enw Llaethwr Didwyll—a dyna Ll.D. i chi ar unwaith!"

Ond fynai Claudia mo'r teitl hwnw imi, a fynwn inau yr un arall.

Mi roedd Gwynedd am imi roid siwt o ddillad i Feirdd yr Orsedd, ond mi gofis mod i wedi clywad am rywun wedi gaddo rhywbeth felly o'r blaen, ac heb gyflawni—ond mi rois gini iddo fo at ffynds Cymdeithas yr Orsedd, ac mi 'ddawodd Claudia basa hi'n mynu gwelad y Proffesor