Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Herkomer, yr arlunydd enwog, a chael gyno fo rhyngo fo a hi i dynu allan patrwn gwisgoedd i'r Beirdd.

"Ei wil sî ddat ddê ar artisticali corect, and ffrêmd on ddi heiest historical models,"[1] ebra hi, gan wenu arno fofel y gwyr hi sut mae gwneud,—ac mi nillodd galon Gwynedd yn llwyr, fel y gwna a phawb y bydd hi'n dewis. Mi roeddwn i'n methu dallt be oedd gyni hi, a pham 'roedd hi'n talu cymint o sylw i Gwynedd.

'Mae o'n allu yn etholaeth Bryn Roberts, David," ebra hi pan ofynis iddi'r noson hono, "ac mae yn dda gofalu'n mlaen llaw am gyfeillion mewn lle felly."

Ond be oedd a fynai etholaeth Bryn Roberts a mi ddeydodd hi ddim.

"Iw lîf ddat tw mi for ddi present," ebra hi,—ac felly gwneis o orfod yn fwy nag o ddewisiad.

Rhoddais order hefyd i Eifionydd am ddau gopi o'r Geninen bob chwarter, gan dalu mlaen llaw iddo am ddwy flynedd. Ond pan eis i i dalu, mi gefis fod redi recyner Eifionydd yn wahanol i'r hyn sy gin i yn gwneud cyfri'r llaeth i fyny. Mae chwe' chwarter yn y flwyddyn yn ol cyfri Eifionydd, gyn fod chwe' rhifyn o'i Gylchgrawn Chwarterol yn dod allan gyno fo yn y deuddeng mis.

"Tad anwyl!" ebra fi wrth roid y deuddag swllt yn ei

  1. Dyma engraifft nodedig iawn o allu rhagwelediadol rhyfedd Mrs. Davies. Fel mae'n hysbys erbyn hyn, yn mhen dwy flynedd wedi hyn y daeth y Proffeswr Herkomer yn adnabyddus i'r byd Eisteddfodol Cymreig fel Noddwr Gorsedd y Beirdd, a lluniwr eu Gwisgoedd Seremoniol. Amlwg yw mai i Mrs. Davies y mae'r Orsedd yn ddyledus am byn, ac mai ei chwaeth goeth hi a ysbrydolodd bwyntil Herkomer wrth gynllunio'r gwisgoedd, a thebygol fod ei bysedd ysgilgar wedi bod yn ddyfal yn tori ac yn gwnio y patrwm cyntaf o'r gwisgoedd prydferth hyn. Mae tegwch a "Claudia" yn hawlio ein bod yn galw sylw arbenig at y ffaith ddyddorol hon wrth fyned heibio.—GOL.